Skip to main content
Will Evans yn dal dwy afr fach gyda golygfeydd Bro Gŵyr yn y cefndir

Craffu ar Will Evans - Sylfaenydd Will’s Farm

Mae dechrau busnes yn broses heriol, ond mae gwneud hynny yn 13 oed yn cymryd dycnwch rhagorol.

I Will Evans - un o gyn-fyfyrwyr amser llawn yng Ngholeg Gŵyr Abertawe - mae ei ddycnwch wedi arwain at sefydlu atyniad lleol hynod o ffyniannus. Bellach yn 19 oed, Will yw sylfaenydd busnes Will's Farm, fferm anifeiliaid anwes a chyrchfan i dwristiaid yng nghalon Gŵyr.

Cawsom sgwrs â Will yn ddiweddar i ddarganfod sut y gwnaeth ei astudiaethau yng Ngholeg Gŵyr Abertawe ei helpu i droi ei angerdd yn fusnes go iawn. Hefyd, fe wnaethon ni ofyn iddo a oes ganddo unrhyw gyngor i fyfyrwyr uchelgeisiol sy'n dymuno ffurfio eu llwybrau eu hunain.

Beth yw hanes Will’s Farm?

Yn wreiddiol, dechreuais fusnes o’r enw Wil’s Petting Farm pan oeddwn i’n 13 oed, ond enw’r lle bellach yw Will’s Farm.  Ym mis Mai, bydd y lle wedi bod ar agor i’r cyhoedd ers 6 blynedd, ac rwy’n falch iawn o hyn. Rydw i’n hen gyfarwydd â hwyaid, ieir, cwningod a moch gini, ac mae anifeiliaid wedi bod yn rhan annatod o’r hyn rydw i wedi ei wneud. Mae’r fferm wedi dod yn atyniad twristaidd lleol yn y Gŵyr ac yn Abertawe. Dros y blynyddoedd nesaf hoffwn weld fy musnes yn gwella a thyfu, gan fynd o nerth i nerth.

Sut wyt ti’n rhedeg y busnes?

Mae rhedeg busnes yn anodd, ond fyddwn i ddim yn newid dim. Mae'n cynnwys mwy na gofalu am yr anifeiliaid yn unig, rwy’n gyfrifol am weithrediadau o ddydd i ddydd, croesawu ymwelwyr, rheoli staff, trin cyllid a gwneud yn siŵr bod gwesteion yn cael profiad gwych. Rydw i wedi dysgu llawer o bethau ar hyd y ffordd, gan ddatblygu fy sgiliau a'm gwybodaeth o ran yr anifeiliaid a'r busnes. Mae cynnal cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith wedi bod yn bwysig iawn i mi, yn enwedig wrth astudio ar yr un pryd.

Sut wnaeth Coleg Gŵyr Abertawe ddylanwadu ar dy daith?

Mae astudio yng Ngholeg Gŵyr Abertawe wedi fy helpu i ddatblygu ystod fawr o sgiliau ar gyfer rhedeg fy musnes. Fe wnes i astudio cwrs Busnes Lefel 3  oherwydd ei fod yn cwmpasu cymaint o bethau defnyddiol – cyfrifeg sylfaenol, gwasanaeth cwsmeriaid, adnoddau dynol a boddhad cwsmeriaid.

Rydw i wedi gallu cymhwyso popeth a ddysgais yn uniongyrchol i'r hyn roeddwn i’n ei wneud ar y fferm.

Fe es i ymlaen i astudio HND mewn Astudiaethau Busnes yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, a ehangodd fy ngwybodaeth ymhellach ac rydw i bellach yn dod yn ôl i astudio'r BA (Anrh) mewn Rheoli Busnes. Roedd y darlithwyr a'r tiwtoriaid yn hynod gefnogol trwy gydol y cwrs ac roedden nhw'n deall fy mod i'n rhedeg busnes ochr yn ochr â'm hastudiaethau. Roedd y gefnogaeth honno yn gwneud y cyfan yn bosibl.

Gair o gyngor i unrhyw un sy'n meddwl ymuno â Choleg Gŵyr Abertawe?

Os ydych chi eisiau astudio yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, ewch amdani. Mae’r darlithwyr yn gefnogol, mae'r dosbarthiadau'n hyblyg ac mae'r awyrgylch cyffredinol yn hyfryd. Mae'n lle gwych i astudio a byddwn i'n ei argymell i unrhyw un.

Wedi astudio yng Ngholeg Gŵyr Abertawe? Bydden ni wrth ein bodd o glywed gennyt

Ble bynnag y mae bywyd wedi mynd â ti ers y coleg, rwyt ti’n dal i fod yn rhan bwysig o gymuned Coleg Gŵyr Abertawe.

Bydden ni wrth ein bodd o glywed gennyt ti. Rydyn ni’n annog cyn-fyfyrwyr i ymuno â Chyn-fyfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe i gadw i fyny â’r newyddion, y digwyddiadau a’r cyfleoedd diweddaraf.

Ymuna â’n Cyn-fyfyrwyr heddiw!