Skip to main content
Ffa-la-la visits Gower College Swansea

Cymraeg mewn Gofal Plant - Gweithdy Ffa-La-La

Mwynhaodd myfyrwyr Gofal Plant ar gampysau Tycoch a Gorseinon weithdai canu gan Carys John o gwmni Ffa-La-La.  Mae Ffalala yn gwmni sydd yn hyfforddi bobl sy’n gweithio mewn meithrinfeydd ar eu defnydd o’r Gymraeg. 

Nod y gweithdai misol yma yw hyfforddi ein myfyrwyr - sydd un ai ar leoliad mewn meithrinfa, ysgol neu gartref preswyl - i ganu caneuon syml yn y Gymraeg a chreu symudiadau i gyd-fynd a nhw. 

“Roedd yn gyfle arbennig i’r myfyrwyr ddatblygu eu sgiliau yn y Gymraeg mewn ffordd ymarferol a gyda chysylltiad cryf i’w lleoliad gwaith,” meddai Rheolwr y Gymraeg Anna Davies.  “Gallant fod yn fwy hyderus nawr wrth gyflwyno rhai caneuon yn y Cyfnod Sylfaen, sydd yn ei dro yn gwella sgiliau Cymraeg plant a phobl hŷn y maent yn dod i gyswllt a nhw.  Hoffwn roi diolch arbennig i Carys am gynnal y gweithdai hyn.”