Skip to main content
 

Dechrau gyrfaoedd creadigol yng Ngholeg Gŵyr Abertawe

Cafodd myfyrwyr ar amrywiaeth o gyrsiau celf a dylunio yng Ngholeg Gŵyr Abertawe gyfle gwych i gwrdd â chyflogwyr ac artistiaid yn ystod trydedd arddangosfa flynyddol Design 48, a gafodd ei chynnal ar gampysau Gorseinon a Llwyn y Bryn.

Y Coleg ddatblygodd y syniad y tu ôl i Design 48 mewn partneriaeth â Rachael Wheatley o Waters Creative.

Yn gyfres o anerchiadau a sesiynau blasu ymarferol, cafodd Design 48 ei ddylunio i ysbrydoli dysgwyr,  rhoi hwb i sgiliau cyflogadwyedd a chodi ymwybyddiaeth o’r llwybrau addysgol a gyrfaol sydd ar gael o fewn y diwydiannau creadigol.

“Erbyn hyn, Design 48 yw un o’r uchafbwyntiau yn y calendr i’n myfyrwyr a’n staff,” dywedodd Rheolwr Maes Dysgu’r Celfyddydau Gweledol, Elinor Franklin. “Mae’n rhoi cyfle anhygoel i’n dysgwyr gwrdd ag artistiaid cyffrous a chyflogwyr allweddol ac mae’n profi unwaith eto bod yna lawer o lwybrau gyrfa cyffrous posibl i’w dilyn yng Nghymru.” 

“Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn aelod balch o Fwrdd Cyflogwyr y Diwydiannau Creadigol ac felly roedden ni wrth ein bodd o groesawu’r digwyddiad gwych hwn am y drydedd flwyddyn yn olynol, gan roi cyfle i’n myfyrwyr archwilio eu potensial a dechrau gosod y sylfeini ar gyfer eu gyrfaoedd creadigol yn y dyfodol,” ychwanegodd Rheolwr Maes Dysgu’r Celfyddydau Creadigol, Liz Edwards. 

Diolch yn fawr iawn i’n cyfranwyr Design 48:

James Owen (Stori Cymru)
Ian Simmons (PCDDS)
Rachael Wheatley a Mike Leach (Waters Creative) 
Sarah Mallabar (Mallabar Films) 
Tamsie Thomas (Zodiac VFX)
David Neuman (Coleg Humber, Toronto)
James Weaver (Cerddor)
Hollie  Singer (Cerddor)
Caroline Lane (Ffilm Cymru)
Derek Ashman (Ffotogrtaffydd)
Ffian Jones (Cynllunydd Gwisgoedd)
Lee Thomas (Gwneuthurwr Printiau)
Zoe Rushton (Siop Un Stop)
Dawn Shackley (Cynllunydd Gemwaith)