Skip to main content
Grŵp yn sefyll ar y llwyfan

Gwobrau UCM Cymru yn cydnabod cyfraniadau rhagorol i les ac ymgysylltiad myfyrwyr

Grŵp yn sefyll ar y llwyfan

Yn ddiweddar (dydd Mawrth, 19 Mawrth) fe wnaeth Coleg Gŵyr Abertawe ennill dwy wobr glodfawr yng nghynhadledd UCM Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae’r digwyddiad blynyddol hwn yn ddathliad o gyfraniadau amhrisiadwy a wneir gan gymdeithasau myfyrwyr, swyddogion a staff eraill at gynnig amgylchedd cefnogol ac egnïol i ddysgwyr.

Eleni, enillodd y Coleg y teitlau Ymgysylltiad Aelodau y Flwyddyn ac Undeb AB y flwyddyn, yn dilyn gwaith caled ein Hundeb Myfyrwyr a’n staff eleni.

Cafodd y Coleg ei gydnabod am ei fenter arloesol, y Clinig Iechyd Rhywiol ar Gampws. Canmolwyd y prosiect arloesol hwn am ei allgymorth effeithiol a helpodd dros 100 o ddysgwyr o fewn y mis cyntaf. Yn ogystal â’r tiwtorialau iechyd rhywiol cynhwysfawr a ddarparwyd gan yr Ymgynghorydd Iechyd Myfyrwyr, roedd y clinig yn adlewyrchiad o ymrwymiad y Coleg i hyrwyddo iechyd a lles myfyrwyr

Fel rhan o’r wobr hon, canmolwyd y Coleg hefyd am ei ymrwymiad i gynwysoldeb amrywiaeth. Sefydlwyd Cymdeithas Affro-Caribïaidd a hyrwyddwyd mentrau megis Hanes Pobl Ddu. Roedd ymgyrch lwyddiannus Wythnos Hanes LHDTCI+, a gyflwynwyd ar y cyd â’r Clwb LHDTCI+, yn esiampl arall o gydraddoldeb a chynrychiolaeth o fewn y Coleg.

Hefyd, enillodd y Coleg wobr fawreddog Undeb AB y flwyddyn. Mae’r cyflawniad hwn yn adlewyrchiad o ymdrechion Fatima Lopes (Llywydd UM) a’i thîm, ac fe wnaeth eu harweiniad a’u mentrau pwrpasol gyfoethogi profiad myfyrwyr yn sylweddol trwy gydol y flwyddyn.

Mae gan holl bwyllgorau’r Coleg gynrychiolwyr o’r Grŵp Rheoli Undeb y Myfyrwyr, er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn cael cyfle i leisio eu barn wrth wneud penderfyniadau. Mae’r digwyddiadau cofrestru llwyddiannus cyn yr Etholiad Cyffredinol yn dangos ymrwymiad y Coleg i ymgysylltu dinesig a chyfranogiad democrataidd

Yn ogystal, mae’r nifer o glybiau a chymdeithasau sy’n gweithredu dan enw’r Undeb Myfyrwyr wedi cynyddu. Mae mwy na 200 o ddysgwyr presennol yn cymryd rhan mewn gweithgareddau wythnosol, ac mae hyn yn amlygu ymhellach rôl bwysig yr Undeb wrth greu cymuned fywiog a chynhwysol.

Wrth sôn am y wobr, dywedodd Joshua Jordan, Rheolwr Profiad y Dysgwr a Lles: “Wrth i’r Coleg barhau i sefydlu meincnodau newydd ar gyfer archerchowgrwydd ac arloesedd ym maes ymgysylltiad a lles myfyrwyr, mae’r cyflawniadau hyn yn adlewyrchiad o ymroddiad ac angerdd myfyrwyr a staff.”

Ychwanegodd Fatima Lopes: “Rydw i wrth fy modd o ddweud bod ein Hundeb Myfyrwyr wedi ennill gwobr Undeb Myfyrwyr Coleg AB y Flwyddyn! Yn ogystal â bod yn gydnabyddiaeth, mae’r fuddugoliaeth hon yn adlewyrchiad o’n hangerdd a’n hymdrechion di-baid ar y cyd i wneud i’n campws ffynnu. Rwy’n hapus iawn ac yn ddiolchgar tu hwnt i fod yn rhan o dîm mor anhygoel.”