Skip to main content
The Gamehers Awards logo

Leah yn gwella safon dysgu trwy ennill Gwobr Effaith Drwy Addysg the*gamehers

Leah Griffiths outside the esports building

Mae Coleg Gŵyr Abertawe (GCS) yn falch o gyhoeddi bod Leah Griffiths, ein myfyrwraig TAR a darlithydd mewn Busnes a Thechnoleg, wedi cael ei henwi'n enillydd yng Ngwobrau the*gamehers 2025. Roedd yn fuddugol yn y categori 'Effaith Drwy Addysg'.

Mae buddugoliaeth Leah yn ei gosod ymhlith 100 o fenywod sydd wedi’u hanrhydeddu'n fyd-eang gan the*gamehers, sefydliad sy'n ymroddedig i hyrwyddo lleisiau a chyflawniadau menywod a phobl sy'n uniaethu â menywod o fewn y diwydiant gemau.

Cafodd Leah, sydd wrthi’n hyfforddi fel athrawes (ac yn hwyluso’r gwaith o gyflwyno ystod o fodiwlau’r cwricwlwm) ei henwebu gan ei mentor, Kiran Jones, am ei hymdrechion i ysbrydoli ac ysgogi myfyrwyr echwaraeon, yn enwedig myfyrwyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol o fewn meysydd gemau a thechnoleg. Mae hi wedi gweithio’n agos â staff addysgu i baratoi gwersi a chyflwyno cynnwys, gan arddangos ei hymrwymiad i addysg gynhwysol ac ymgysylltiol.

Mae Leah yn frwd iawn dros echwaraeon ac mae hi eisoes wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol. Yn ogystal, mae hi wedi cyfrannu at lwyddiant tîm echwaraeon CGA, Gwdihŵs CGA. Mae hi wedi dod o hyd i gystadleuwyr, mynychu digwyddiadau a chreu cyfleoedd newydd i fyfyrwyr er mwyn iddynt ymgysylltu 5â’r diwydiant echwaraeon.

Roedd ei hymrwymiad i roi hwb i ddysgu a grymuso myfyrwyr ym myd echwaraeon a gemau yn amlwg iawn o gymharu â’r miloedd o enwebiadau cafodd eu rhestru yng ngwobrau *gamehers.

“Fe wnaeth y gymuned sydd wedi fy siapio i chwarae rhan hollbwysig yn fy llwyddiant.”

dywedodd Leah Griffiths.

“Diolch am fy ngalluogi i rannu fy angerdd am echwaraeon a gemau. Mae bod yn addysgwr wedi bod yn rhan ystyrlon iawn o fy nhaith, ac mae hyn yn deyrnged i’r cymorth rydw i wedi ei dderbyn.”

Hefyd, diolchodd Leah i’w mentoriaid a'i chefnogwyr, Kiran Jones, Daniel Davies, Clive Prosser, Neil Griffiths a Sian Bevan, gan nodi eu hanogaeth a'u harweiniad parhaus, amhrisiadwy.

"Rydym yn falch iawn o gyflawniad gwych Leah a’i hymroddiad i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr gemau proffesiynol,"

 dywedodd Darren Fountain, Rheolwr Maes Dysgu Busnes a Thechnoleg.

“Mae ei hangerdd am addysg ac echwaraeon yn cyd-fynd yn llwyr â’n hagwedd ni yng ngholeg Gŵyr Abertawe, ac mae’r gydnabyddiaeth yma yn hollol haeddiannol."

Mae cyflawniad anhygoel Leah Griffiths yn adlewyrchiad o ymroddiad Coleg Gŵyr Abertawe i ragoriaeth mewn addysg â’r rôl hollbwysig o ddatblygu unigolion o Gymru o fewn y diwydiannau digidol a chreadigol.

Gweld y cyrsiau e-chwaraeon yn CGA