Skip to main content
Myfyriwr Rhyngwladol yn dathlu cynnig Caergrawnt

Myfyriwr Rhyngwladol yn dathlu cynnig Caergrawnt

Eleni, mae myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe wedi dathlu 11 cynnig gwych gan brifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt.

Yn eu plith mae’r myfyriwr Rhyngwladol Nisha Wattananavin, sydd wedi cael cynnig lle yn Neuadd y Drindod, Caergrawnt i astudio Economi Tir.

Ymunodd Nisha â’r Coleg ym mis Medi 2024 ar ôl i’r ystod eang o bynciau Safon Uwch – bron 40 – sydd ar gael ar Gampws Gorseinon greu argraff arni.

“Dwi’n cofio edrych ar y wefan ac yn ei chael hi’n anodd dewis beth i’w astudio oherwydd roedd ‘na gynifer o opsiynau!” meddai Nisha.

“Rheswm arall pam wnes i ddewis Coleg Gŵyr Abertawe yw ei leoliad yn Abertawe, dinas wrth y môr, wnaeth wir apelio ata i. Mae’r golygfeydd a gewch ar ddiwrnod braf yn anhygoel. Dwi’n mwynau mynd am dro ar hyd y traeth neu yn y parc gyda fy ffrindiau. Yn ninas Abertawe mae llawer o lefydd lle gallwch fynd am dro, a dwi’n hoffi hwnna’n fawr.”

Tyfodd Nisha i fyny yng Ngwlad Thai, mewn tref yn ne’r wlad nid nepell o’r ffin â Malaysia. Yno, cwblhaodd hi Flwyddyn 11 cyn dod i’r DU.  

Ymgartrefodd Nisha yn gyflym iawn yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.

“Dwi wir yn mwynhau fy nosbarthiadau, yn bennaf oherwydd yr athrawon. Maen nhw’n postio crynodebau defnyddiol ac yn darparu adnoddau o safon uchel iawn ac mae’n amlwg eu bod yn rhoi llawer iawn o’u hamser ac ymdrech i’w creu – fel rhestrau adolygu wedi’u targedu – a dwi’n gwerthfawrogi hynny’n fawr. Maen nhw’n brofiadol ac mae canlyniadau eu myfyrwyr yn wirioneddol bwysig iddynt."

Pan gyrhaeddodd y cynnig gan Gaergrawnt, roedd Nisha yn syfrdan.

“Doeddwn i ddim yn disgwyl dim, ac felly fe wnes i bron gwympo i’r llawr pan welais i’r e-bost. Roedd hi’n teimlo mor swreal, roedd rhaid i mi ei ddarllen sawl gwaith i wneud yn siŵr nad oeddwn i wedi camddarllen y peth! Treuliais i’r diwrnod cyfan yn ailddarllen y cynnig gyda fy nghalon yn curo’n gyflymach bob tro. Roeddwn i’n teimlo mor falch y diwrnod ‘na ac roedd y cynnig yn teimlo fel datganiad sy’n dweud fy mod i’n ddigon da, fel clod o ryw fath. Roeddwn i fel y gog.

“Heb gymorth emosiynol gan y timau Rhyngwladol ac Anrhydeddau CGA, fyddwn i ddim wedi gwneud cais i Gaergrawnt o gwbl, gan nad oeddwn i’n meddwl y byddwn i’n cael lle yno,” ychwanegodd Nisha. “Chwaraeon nhw rôl enfawr wrth fy helpu i gyrraedd lle ydw i heddiw, a fy nghefnogi bob cam o’r ffordd. Maen nhw hefyd wedi bod yn gefnogol iawn mewn agweddau eraill ar fywyd Coleg, fel helpu gyda theuluoedd croesawu a cheisiadau am ysgoloriaethau. Roeddwn i hefyd wedi gwneud cais i brifysgolion eraill y tu allan i’r DU, ac fe wnaeth y darlithwyr fy helpu trwy ysgrifennu llythyrau argymhelliad i mi.

“Yn ogystal, fe wnaeth y cymorth academaidd a gefais chwarae rhan fawr wrth fy helpu i gyrraedd lle ydw i heddiw, gyda staff y Coleg yn cynnal cyfweliadau paratoadol ac yn rhoi cyngor gwerthfawr oedd yn berthnasol i Gaergrawnt a helpodd fi drwy’r broses ymgeisio.”

“Rydyn ni mor falch o Nisha,” ychwanegodd Pennaeth yr Adran Ryngwladol yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, Ruth Owen Lewis. “Mae hi’n fyfyriwr mor alluog, ond hefyd yn ostyngedig ac yn gwrtais ac mae hi bob amser yn barod i gymryd rhan yng ngweithgareddau’r Coleg. Rydyn ni wrth ein bodd drosti, mae mor haeddiannol. Rydyn ni’n dymuno pob hwyl iddi ar gyfer y dyfodol.”

Ar ôl y brifysgol, mae Nisha yn gobeithio gweithio yn y diwydiannau eiddo tiriog, datblygu trefol neu’r amgylchedd. Ar ôl cael rhywfaint o brofiad ymarferol, mae hi’n anelu at barhau â’i hastudiaethau a chwblhau gradd Meistr.