Mae Regan D, un o fyfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe yn edrych ymlaen at wyliau haf sy’n wahanol i’r arfer yn 2025, gan ei fod yn un o bedwar myfyriwr yn unig sydd wedi sicrhau lle ar raglen breswyl ym Mhrifysgol Florida.
Bydd Regan, sydd hefyd yn un o gyn-ddisgyblion Ysgol Gyfun y Gŵyr ac sy’n astudio cyrsiau Safon uwch mewn Saesneg, y Cyfryngau a Chymdeithaseg, yn hedfan i Gainesville yn ystod gwyliau’r haf er mwyn cymryd rhan mewn gweithdai a gynhelir gan Ysgol y Cyfryngau, Cyfathrebu a Newyddiaduraeth y Brifysgol.
Mae Regan wedi bod yn brysur yn ddiweddar yn adrodd o gynhadledd yn Llundain ac o faes Eisteddfod yr Urdd ym Mharc Margam - cyfleoedd a fydd yn sicr o wella ei bortffolio
Mae e’n aelod o raglen Anrhydeddau CGA, sy’n cynnig cyfleoedd cyfoethogi academaidd a chymorth i fyfyrwyr 16-18 oed sy’n dymuno astudio ym Mhrifysgolion gorau’r DU a thu hwnt. Mae rhaglen Anrhydeddau CGA hefyd yn rhoi mynediad i fyfyrwyr i Academi Seren, sef menter gan Lywodraeth Cymru a gynlluniwyd i helpu myfyrwyr mwyaf disglair Cymru i ddiwallu eu potensial academaidd.
Gwnaeth gais i’r rhaglen breswyl drwy gyflwyno traethawd un dudalen i Academi Seren, gan nodi ei brofiadau perthnasol ym maes darlledu - mae ganddo ei wefan ei hun ynghyd â sianeli YouTube. Soniodd hefyd am ei awydd i ddatblygu ei sgiliau newyddiadurol ymhellach.
“Dw i’n gyddrous i gael mewnwelediad academaidd i fyd newyddiaduraeth, gan ddatblygu sgiliau a fydd o fudd i mi wrth geisio sicrhau cyflogaeth,” dywedodd Regan, sydd eisoes wedi cyfweld ag unigolion enwog megis Matt Ryan ac Ioan Gruffydd, yn ogystal â’r gwneutthurwr ffilmiau, Brian Levant a’r cyflwynydd teledu Sarra Elgan Rees. “Dw i’n awyddus i ddysgu mwy am ddulliau cyfweld ac ysgrifennu straeon newyddion, ac rydw i’n gyffrous i gwrdd â darpar newyddiadurwyr eraill o bob cwr o’r byd.
“Mae’r rhaglen breswyl amrywiol yn dod â phob math o bobl ynghyd, o Efrog Newydd i Bangladesh, felly mi fydd yn ddiddorol siarad â phobl o wahanol ddiwylliannau a chefndiroedd. Dw i’n lwcus iawn fy mod wedi cael fy newis!
“Dw i’n ddiolchgar iawn i Academi Seren am y cyfle hwn. Diolch hefyd i Dr Emma Smith, Cydlynydd Rhaglen Anrhydeddau CGA/Cydlynydd Hwb Seren Abertawe am hwyluso fy nhaith a helpu gyda’r broses ymgeisio.”
“Roedd y broses yn gystadleuol iawn - dim ond pedwar lle oedd ar gael, felly mae Regan wedi gwneud yn dda iawn,” dywedodd Emma. “Ar ôl sicrhau ei gymwysterau Safon Uwch, mae e’n awyddus i symud ymlaen i fod yn newyddiadurwr proffesiynol, a hoffwn ddymuno pobl lwc iddo - mae e eisoes wedi gadael marc yn y diwydiant, ac mae ei botensial yn ddi-ben-draw!”