Ar ôl digwyddiad llwyddiannus Wythnos Diwylliannau y llynedd, roedd Coleg Gŵyr Abertawe yn falch iawn o ddathlu amrywiaeth ei gymuned unwaith eto yn ystod Wythnos Diwylliannau 2026. Ac unwaith eto, roedd y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol.
Daeth ein Myfyrwyr Rhyngwladol ynghyd i redeg stondin gan roi'r cyfle i fyfyrwyr a staff CGA gael blas ar amrywiaeth o ddiwylliannau o bob cwr o'r byd. Roedd y stondin yn arddangos traddodiadau a diwylliannau gwahanol wledydd, gan annog sgyrsiau, cyfnewid gwybodaeth ddiwylliannol a dealltwriaeth well o'r nifer fawr o gefndiroedd sy’n rhan o’r Coleg.
Roedd yr hetiau Brasilaidd lliwgar yn boblogaidd ac roedd yr Her Chopsticks yn gyfle hwyliog i gynnwys elfen gystadleuol i’r diwrnod. Cafodd ymwelwyr hefyd gyfle i ddysgu ffeithiau diddorol am wahanol wledydd mewn amgylchedd hwyliog a chroesawgar, gan ofyn cwestiynau am fywyd dramor a darganfod y tebygrwydd a gwahaniaethau rhwng diwylliannau.
Mae Wythnos Diwylliannau yn parhau i fod yn gyfle pwysig i hyrwyddo cynhwysiant, dathlu amrywiaeth ac annog myfyrwyr i ddysgu oddi wrth ei gilydd. Mae digwyddiadau o’r fath yn ffordd wych o feithrin ymdeimlad cryf o gymuned ac i dynnu sylw at y cysylltiadau byd-eang sy'n cyfoethogi bywyd yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.
Diolch i bawb a gymerodd ran ac a helpodd i wneud Wythnos Diwylliannau 2026 yn ddathliad cofiadwy o amrywiaeth, dysgu a chymuned.