Skip to main content
O’r llwyfan i’r dudalen

O’r llwyfan i’r dudalen

Pan nad yw’n addysgu’r cenhedlaeth nesaf o actorion yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, mae Wyn Richards – Arweinydd Cwricwlwm ar gyfer Diploma Proffesiynol UAL Lefel 4 mewn Perfformio (Actio) – yn ysgrifennu ar gyfer cylchgrawn uchel ei barch y diwydiant Drama & Theatre.

Mae erthygl ddiweddaraf Wyn yn canolbwyntio ar y gwaith a gwblhaodd ei fyfyrwyr ar gyfer eu Prosiect Mawr Terfynol yn ôl ym mis Mai.

Ysbrydolwyd y darn, Brushstrokes in the Sand, gan waith yr artist o Abertawe Nick Holly, a welodd y myfyrwyr yn defnyddio pump o baentiadau Holly fel ysbrydoliaeth i ddyfeisio darn gwreiddiol yn cynnwys actio, cân a symudiad/dawns. Yn ogystal, fe wnaethon nhw gynnwys golygfeydd a monologau o ddramâu Cymreig, y mae gan eu dramodwyr gysylltiad agos ag ardal Abertawe a’r Coleg.

Mae Wyn wedi ysgrifennu nifer o erthyglau ar gyfer y cylchgrawn, gyda chynnwys yn amrywio o bwysigrwydd addysgu theatr dechnegol mewn ysgolion fel rhan o gwricwlwm TGAU Drama i’r cwrs gradd BA (Anrh) Actio (Theatr Gerdd) newydd yn Italia Conti, un o’r sefydliadau hyfforddiant Celfyddydau Perfformio blaenllaw yn y DU. 

Dechreuodd ei gysylltiad â’r cylchgrawn pan oedd yn gynghorydd drama ar gyfer Arddangosfa Addysg Cerddoriaeth a Drama Llundain a Manceinion - cynhadledd fwyaf Ewrop ar gyfer addysg cerddoriaeth a drama. Ar y pryd, trefnydd y digwyddiad oedd golygydd cylchgrawn UK Drama & Theatre hefyd, a chysylltodd hi â Wyn i ofyn iddo fod yn golofnydd llawrydd - cynnig yr oedd yn falch o’i dderbyn.

“Mae’r erthyglau dwi’n eu hysgrifennu ar gyfer y cylchgrawn wedi rhoi cyfle i mi arddangos y gwaith rhagorol sy’n digwydd yn adran y Celfyddydau Perfformio yng Ngholeg Gŵyr Abertawe,” meddai Wyn. “Mae’n fy ngalluogi i dynnu sylw at y gwaith eang ac amrywiol sy’n cael ei wneud gan ein myfyrwyr a pha mor addas yw’r cyrsiau i’r rhai sy’n paratoi i symud ymlaen i hyfforddiant ysgol ddrama arbenigol.”