I nifer o bobl ifanc, mae symud o’r ysgol i’r coleg yn un o’r cerrig milltir mwyaf yn eu haddysg.
Gall amgylchedd newydd, disgwyliadau newydd a threfn arferol newydd wneud i’r pontio deimlo’n frawychus, yn enwedig i ddysgwyr sydd angen cymorth ychwanegol. Dyna pam mae Coleg Gŵyr Abertawe yn gweithio’n agos gyda’i ysgolion partner i sicrhau bod myfyrwyr yn teimlo’n hyderus, yn barod ac yn gyffrous am y cam nesaf ar eu taith addysgol.
O raglenni cymorth wedi’u teilwra ac ymweliadau â’r campws i ddigwyddiadau ymgysylltu â rhieni a gweithdai pontio, mae dull cydweithredol y Coleg yn helpu cannoedd o ddysgwyr ar draws yr ardal i ddechrau addysg bellach yn llwyddiannus.
Siaradon ni â Kate Morgan, Pennaeth Blwyddyn 11 yn un o ysgolion partner y Coleg, Ysgol Gyfun Dylan Thomas, am y gwahaniaeth y mae’r bartneriaeth hon yn ei wneud.
"I rai o’n disgyblion sy’n fwy agored i niwed, mae cymorth o Goleg Gŵyr Abertawe yn cychwyn ar ddechrau Blwyddyn 10,” meddai Kate.
"Mae’r ymgysylltiad cynnar ‘na yn rhoi’r amser a’r tawelwch meddwl sydd eu hangen arnyn nhw i ddod yn gyfarwydd â bywyd coleg cyn eu bod yn cyflwyno cais hyd yn oed.
"I ddysgwyr eraill, mae’r pontio’n dechrau yn nes ymlaen ym Mlwyddyn 10 trwy wasanaethau ysgol, gweithdai a chyfleoedd i gwrdd â staff y Coleg. Mae’r cyfan yn ymwneud â sicrhau bod gan bob person ifanc yr wybodaeth a’r hyder sydd eu hangen arnyn nhw i wneud y penderfyniad iawn ar gyfer eu dyfodol."
Fel rhan o’r rhaglen bontio, mae dysgwyr yn cael cyfle i ymweld â chyfleusterau arbenigol, gan gynnwys Campws Llys Jiwbilî y Coleg, lle maen nhw’n gallu profi dysgu galwedigaethol mewn meysydd fel adeiladu a thirlunio a chael blas go iawn ar fywyd y Coleg.
Mae’r bartneriaeth hefyd yn ymestyn i deuluoedd, gyda Choleg Gŵyr Abertawe yn mynychu nosweithiau rhieni Blwyddyn 10 ac 11 i ateb cwestiynau a rhoi arweiniad.
"Mae cael staff y Coleg yn ein nosweithiau rhieni wedi bod yn amhrisiadwy," esboniodd Kate. "Mae rhieni eisiau gwybod pa gymorth fydd ar gael, pa gyrsiau fyddai’n gweddu i’w plentyn ac a oes cymorth ariannol ar gael. Mae tîm y Coleg bob amser yn dod gyda’r wybodaeth yn barod ac maen nhw’n cynnig llawer o dawelwch meddwl. Maen nhw’n helpu teuluoedd i ddeall na fydd y gefnogaeth mae eu plentyn yn ei chael yn yr ysgol yn diflannu’n sydyn pan fyddan nhw’n symud i addysg bellach."
Mae’r tawelwch meddwl hwnnw yn arbennig o bwysig i deuluoedd sydd yn llywio addysg bellach am y tro cyntaf.
"I nifer o’n disgyblion, nhw fydd y cyntaf yn eu teulu i symud ymlaen i’r Coleg," meddai Kate. "Trwy weithio gyda’n gilydd, rydyn ni’n helpu i chwalu rhwystrau a chodi dyheadau. Mae teuluoedd yn dechrau gweld bod addysg bellach yn gyfle cyffrous a chyflawnadwy."
Mae buddion y bartneriaeth yn parhau ymhell ar ôl i ddysgwyr adael yr ysgol.
"Rydyn ni weld cynifer o gyn-ddisgyblion yn mynd ymlaen i gyflawni pethau anhygoel ar ôl astudio yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, gan gynnwys symud ymlaen i brifysgolion Russell Group a sicrhau lleoedd ar gyrsiau gradd hynod gystadleuol,” meddai. “Rydyn ni’n gwybod bod y cymorth maen nhw’n ei gael yn ystod eu hamser yn y Coleg yn chwarae rhan fawr yn y llwyddiannau hynny."
Mae Kate yn credu mai’r berthynas gryf rhwng ysgolion a’r Coleg yw un o’r rhesymau allweddol pam mae dysgwyr yn ffynnu.
"Mae symud o’r ysgol i’r Coleg yn gallu teimlo fel cam mawr, ond oherwydd y bartneriaeth agos sydd gennym gyda Choleg Gŵyr Abertawe, mae’r rhwystrau hynny yn cael eu dileu. Mae ein dysgwyr yn cyrraedd yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi ac yn barod i lwyddo."
Trwy ei gysylltiadau cadarn ag ysgolion partner, mae Coleg Gŵyr Abertawe yn parhau i ddangos sut y gall ymyriad cynnar, cydweithredu a chymorth wedi’i bersonoli drawsnewid y cyfnod pontio i addysg bellach gan helpu dysgwyr i ymgartrefu ym mywyd y Coleg ond i ffynnu yno hefyd.
Gadael yr ysgol yn yr haf a dal ddim yn siŵr am eich cam nesaf? Dyw hi ddim yn rhy hwyr i wneud cais i Goleg Gŵyr Abertawe.