Skip to main content
Penodi Kelly Fountain yn Brif Swyddog Gweithredol Coleg Gŵyr Abertawe

Penodi Kelly Fountain yn Brif Swyddog Gweithredol Coleg Gŵyr Abertawe

Mae un o golegau addysg bellach mwyaf Cymru, Coleg Gŵyr Abertawe, wedi penodi Kelly Fountain yn Brif Swyddog Gweithredol newydd. 

Bydd Kelly, sydd wedi gwasanaethu fel Pennaeth y Coleg ers Ionawr 2024, yn trosglwyddo i’w rôl newydd yn dilyn ymddeoliad y Prif Swyddog Gweithredol presennol Mark Jones MBE, yn yr haf. 

Daw’r penodiad wrth i’r Coleg baratoi i ffarwelio â Mark Jones, MBE, y mae ei wasanaeth ymroddgar fel Prif Weithredwr wedi sicrhau llwyddiant a chyfeiriad strategol y Coleg dros y 12 mlynedd diwethaf.

Mae gan Kelly dros 20 mlynedd o brofiad yn y sector addysg bellach ledled Cymru a Lloegr. Cyn ymuno â Choleg Gŵyr Abertawe, bu’n Ddirprwy Bennaeth Gwasanaethau Academaidd yng Ngrŵp Colegau NPTC ac mae ganddi gefndir helaeth mewn arweinyddiaeth strategol, gwella ansawdd a datblygiad traws-golegol. Yn ystod ei chyfnod yn y Coleg mae Kelly wedi cael effaith sylweddol a chadarnhaol ac wedi goruchwylio datblygiad cynllun strategol y Coleg newydd gan gynnwys lansio Gweledigaeth, Cenhadaeth a Gwerthoedd y Coleg newydd.

Yn ei swydd newydd, bydd Kelly yn cymryd cyfrifoldeb cyffredinol am lywio gweledigaeth strategol y Coleg, gan gynrychioli’r Coleg yn allanol gan weithio’n agos gyda llywodraethwyr a rhanddeiliaid i sicrhau bod addysg a hyfforddiant o ansawdd uchel yn parhau i gael eu darparu ar draws y rhanbarth a thu hwnt. Bydd Kelly hefyd yn goruchwylio gweithrediad strategaeth ystadau uchelgeisiol y Coleg, trawsnewid digidol a pharhau i feithrin diwylliant sefydliadol cryf a chynhwysol.

Ar ran y Llywodraethwyr, dywedodd Ian Price, Cadeirydd Corff Llywodraethu’r Coleg:

“Hoffen ni longyfarch Kelly ar ei phenodiad fel Prif Swyddog Gweithredol newydd Coleg Gŵyr Abertawe. Rwy’n ddiolchgar i bawb a fu’n rhan o’r broses benodi ac yn edrych ymlaen yn fawr at weithio’n agos gyda Kelly dros y flwyddyn i ddod ac rydyn ni’n edrych ymlaen at yr effaith gadarnhaol barhaus y bydd yn ei chael.

Wrth siarad am ei phenodiad, dywedodd Kelly Fountain:

“Mae’n fraint ac yn anrhydedd mawr cael fy mhenodi’n Brif Swyddog Gweithredol y Coleg eithriadol hwn. Ar ôl cychwyn ar fy nhaith addysgol fy hun yma fel myfyriwr ym 1995, rwyf wedi profi’n uniongyrchol yr effaith drawsnewidiol a gafodd staff y Coleg hwn ar fy nhaith bersonol – ac mae ein staff yn parhau i fod yn rhagorol heddiw, gan wthio ffiniau yn gyson ac ysbrydoli rhagoriaeth.

“Rwy’n edrych ymlaen at adeiladu ar etifeddiaeth eithriadol Mark dros y 12 mlynedd diwethaf a gweithio ochr yn ochr â’n Bwrdd y Gorfforaeth i ychwanegu at ein llwyddiannau niferus, cryfhau cysylltiadau yn ein sectorau busnes a’n cymunedau, a gweithio’n agos gyda staff, llywodraethwyr a phartneriaid.

“Mae hon yn bennod wirioneddol gyffrous i’n Coleg – gyda’n cynllun strategol newydd ei sefydlu, strategaeth ystadau uchelgeisiol, a chyfleoedd lu ar gyfer twf. Rwyf wedi ymrwymo i ehangu ein cyrhaeddiad a’n heffaith, gan gydweithio â’n rhanddeiliaid allweddol a sicrhau ein bod yn parhau i ddarparu profiad dysgu rhagorol i’n dysgwyr, ein cymunedau, a’n cyflogwyr partner.”

DIWEDD

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn un o’r colegau AB mwyaf yng Nghymru gyda thros 4,500 o ddysgwyr amser llawn ac 8,000 o ddysgwyr rhan-amser – gan gynnwys 3,000 o brentisiaid – o bob rhan o Abertawe a’r siroedd cyfagos yn astudio bob blwyddyn. Mae’r Coleg yn gweithredu o saith lleoliad ac mae’n un o’r cyflogwyr mwyaf yn yr ardal gyda thros 1,000 o aelodau staff a throsiant blynyddol o £60m.