Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae prentisiaethau wedi dod yn ffordd bwerus iawn o gryfhau’r economi leol, gan fynd i’r afael â bylchau mewn sgiliau a chreu cyfleoedd gyrfa i bobl o bob oed.
Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, rydym yn deall sut mae prentisiaethau yn trawsnewid busnesau. Maent yn rhaglenni dysgu seiliedig ar waith sy’n addas ar gyfer unigolion o bob oed sy’n gweithio 16 awr neu fwy yr wythnos. Maent hefyd yn cynnig cyfuniad unigryw o brofiad ymarferol a hyfforddiant ffurfiol, gan eich galluogi i ennill cyflog wrth ddysgu a pharatoi yn drylwyr ar gyfer diwallu anghenion y farchnad swyddi gyfredol.
I bobl ifanc, mae prentisiaethau yn cynnig opsiwn addysg ymarferol â llwybrau dilyniant clir. Mae hyn yn wahanol i gyrsiau amser llawn neu gyrsiau gradd. Mae prentisiaethau yn cynnig cyfle i oedolion ailsgilio neu uwchsgilio, gan agor drysau i ddiwydiannau sy’n awyddus iawn i gyflogi gweithwyr arbenigol. Dyma rai enghreifftiau o’r diwydiannau sy’n gwneud y mwyaf o brentisiaid: digidol, adeiladu, gweithgynhyrchu, iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae ystod eang o brentisiaethau ar gael yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, o Lefel 2 i brentisiaethau lefel gradd.
Ffair Brentisiaethau
Dyma ffordd wych o archwilio opsiynau prentisiaeth a siarad yn uniongyrchol â'n staff arbenigol yn y Coleg. Ar ddydd Mercher, 4 Mehefin, o 3.30pm i 7:30pm, bydd Coleg Gŵyr Abertawe yn agor drysau Campws Tycoch ar gyfer Ffair Brentisiaethau gyffrous.
Dyma gyfle i ddarganfod cyfleoedd go iawn, gofyn cwestiynau a chymryd y cam nesaf ar eich taith.
Bydd dros 94 o feysydd pwnc arbenigol yn y digwyddiad, gan gynnwys cyfrifeg, y gyfraith, adeiladu, peirianneg, iechyd a gofal cymdeithasol, TG a chyfryngau creadigol.
Byddwch hefyd yn cael cyfle i gwrdd â chyflogwyr fel Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (BIPBA), Cyngor Abertawe, Cyfrifwyr Atkins, Vale Europe ('The Mond') a Freedom Leisure - LC Abertawe.
Cofretru ar gyfer y Ffair Brentisiaethau
Datgloi Llwyddiant Trwy Brentisiaethau
Mae prentisiaethau’n cefnogi twf busnesau lleol. Maent yn rhoi’r sgiliau ymarferol i ddysgwyr y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt, gan roi cyfle i fusnesau feithrin talent yn fewnol. Maent yn caniatáu i fusnesau lenwi bylchau mewn sgiliau critigol drwy recriwtio staff newydd, neu gallant uwchsgilio timau yn fewnol, gan sicrhau bod y busnes yn parhau i fod yn gystadleuol, yn hyblyg ac yn barod ar gyfer y dyfodol.
Dyma ddywedodd Atonia Williams, Rheolwr Hyfforddiant TUI Group am sut y mae prentisiaethau Coleg Gŵyr Abertawe wedi trawsnewid gweithlu TUI:
“Mae staff TUI yn teimlo bod ganddyn nhw bwrpas. Maen nhw'n hapus eu bod nhw'n cael eu datblygu ac mae prentisiaethau'n ffordd o wella diwylliant y cwmni. Maen nhw hefyd yn gwella cyfraddau trosiant gweithwyr oherwydd bod staff yn teimlo eich bod chi wedi buddsoddi yn eu twf a'u datblygiad. Yn ogystal â hyn, mae’n ffordd wych o feithrin staff a rheolwyr ar gyfer y dyfodol.”
Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, mae ein rhaglenni prentisiaeth yn parhau i fynd o nerth i nerth ac maent wedi ennill cydnabyddiaeth genedlaethol mewn seremonïau fel Gwobrau Prentisiaethau Cymru, Gwobrau Tiwtoriaid Inspire!, Gwobrau TES FE, Gwobrau Cynhadledd Prentisiaethau Flynyddol a Gwobrau Beacon: Cymdeithas y Colegau.
Er bod y cyflawniadau hyn yn adlewyrchiad o’n safonau uchel, rydym yn cydnabod bod rhai busnesau'n dal i fod yn betrusgar o ran defnyddio prentisiaethau.
Dyna pam rydym wedi ei gwneud yn flaenoriaeth allweddol i gynnig proses di-dor a chefnogol. Rydym yn gyfrifol am y gwaith gweinyddu, gan arwain cyflogwyr trwy'r broses a'r gwaith papur. Rydym yn gweithio'n agos gyda busnesau i greu rhaglenni hyfforddi pwrpasol wedi'u teilwra i'w hanghenion nhw, ac rydym yn cynnig cyngor arbenigol ar opsiynau ariannu a chyfleoedd grantiau.
Esboniodd Kelly Fountain, Pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe:
“Mae prentisiaethau’n ffordd o elwa pawb yn ein rhanbarth. Mae dysgwyr yn sicrhau profiad gwerthfawr a sgiliau penodol i’r diwydiant, gan eu paratoi ar gyfer llwyddiant gyrfa hirdymor. Hefyd, mae cyflogwyr yn buddio o weithlu brwdfrydig a medrus sydd wedi’i deilwra’n arbennig i’w hanghenion.”
Fel darparwr o’r radd flaenaf, rydym yn cydweithio â 673 o gyflogwyr ac yn cefnogi bron i 3,000 o brentisiaid yn flynyddol. Rydym yn ymfalchïo yn ein gallu i deilwra rhaglenni i'ch anghenion penodol, gan weithio ar y cyd i greu atebion hyfforddi sy'n cyd-fynd yn berffaith â'ch amcanion.
Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, nid ydynt o’r farn bod prentisiaethau’n ymwneud â swyddi yn unig- maent yn ymwneud â meithrin economi leol gryfach a challach i bawb."
Ydych chi eisiau gwybod rhagor am sut y gallai prentisiaethau ddatblygu eich busnes? Ydych chi am gofrestru ar gyfer ein Ffair Brentisiaethau i siarad â'n tîm?