Skip to main content
Promotional image - Upskill with our short FREE Courses

Yn cyflwyno Sgiliau ar gyfer Abertawe: Ailhyfforddi ac uwchsgilio trwy gyrsiau am ddim!

Ydych chi’n barod i ddarganfod cyfleoedd newydd i wella eich sgiliau? Dyna yw nod Sgiliau ar gyfer Abertawe, menter arloesol newydd gan Goleg Gŵyr Abertawe.

Cynlluniwyd y rhaglen i rymuso a gwella sgiliau cyflogadwyedd unigolion sy’n byw yn Abertawe. Mae’r fenter yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau am ddim* sydd wedi’u teilwra i fodloni gofynion yr economi leol sy’n newid yn barhaus.

Mae’r Coleg wedi ymrwymo i gefnogi unigolion 19 oed a hŷn ar eu taith at ailhyfforddi ac uwchsgilio. Gan ein bod yn meddu ar ddealltwriaeth gynhwysfawr o’r dirwedd economaidd leol, rydym wedi creu cyfres o gyrsiau sydd wedi’u cynllunio i fynd i’r afael ag anghenion perthnasol y diwydiant.

Dyma restr o’r cyrsiau sydd ar gael:

  • Sgiliau Digidol
  • Marchnata Digidol 
  • Gwasanaeth Cwsmeriaid 
  • Rheoli Risg 
  • Ymwybyddiaeth Amgylcheddol 
  • Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl
  • Ynni Gwyrdd a Chynaliadwyedd
  • Iechyd a Diogelwch
  • Cynnal a Chadw Beiciau
  • Rheoli Cyfleusterau

Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, credwn mai addysg yw conglfaen twf personol a phroffesiynol. Trwy Sgiliau ar gyfer Abertawe, rydym yn ceisio gwella hygyrchedd addysg o safon, gan rymuso unigolion i ffynnu mewn byd sy’n newid ar raddfa barhaus.

Yn y byd prysur sydd ohoni, mae aros yn berthnasol ac yn addasadwy yn allweddol. Gall Sgiliau ar gyfer Abertawe wella eich sgiliau ar gyfer y dyfodol fel y gallwch fanteisio ar gyfleoedd yn hyderus.

Grymuswch eich hun. Cyfoethogwch eich dyfodol. Cofrestrwch heddiw!

Mae Sgiliau ar gyfer Abertawe yn addas ar gyfer unigolion 19+ sy’n byw neu’n gweithio yn Abertawe.

I gael rhagor o wybodaeth am y fenter neu i gael atebion i’ch ymholiadau, cysylltwch â:

E-bost: Skills4Swansea@gcs.ac.uk

Ffôn: 01792 284400