Newyddion y Coleg
Pam y gall bywyd coleg yng Ngholeg Gŵyr Abertawe fod yn ddewis delrydol i chi
Sgwrs â Kelly Fountain am yr amrywiaeth o fanteision sydd gan y coleg i’w cynnig i ddisgyblion sy’n ymadael â’r ysgol, gan gynnwys ystod eang o bynciau, addysgu o’r radd flaenaf, cymorth bugeiliol a chysylltiadau â’r diwydiant. Darllen mwy
14 yn cael cynnig lleoedd yn Rhydgrawnt
Mae 14 o fyfyrwyr Safon Uwch o Goleg Gŵyr Abertawe wedi cael cynnig lleoedd i astudio ym Mhrifysgol Rhydychen neu Brifysgol Caergrawnt yn 2025.
Mae’r myfyrwyr i gyd yn dilyn rhaglen Anrhydeddau CGA y Coleg, sydd â’r nod o ddarparu’r paratoadau gorau posibl i fyfyrwyr a hoffai symud ymlaen i Rydychen, Caergrawnt a phrifysgolion Russell Group. Y myfyrwyr yw:
Darllen mwy
Coleg Gŵyr Abertawe yn cryfhau ei safle fel arweinydd mewn Addysg a Hyfforddiant Seiberddiogelwch trwy gysylltiad newydd â’r Hyb Arloesedd Seiber
Mae partneriaeth newydd â’r Hyb Arloesedd Seiber (CIH) yn dod â rhaglen o addysg seiberddiogelwch i Ysgol Fusnes Plas Sgeti. Bydd y bartneriaeth yn canolbwyntio ar uwchsgilio diwydiant mewn hylendid seiberddiogelwch i helpu i sicrhau bod gan fusnesau ar draws De-orllewin Cymru yr wybodaeth, y sgiliau a’r ddealltwriaeth i sicrhau eu gweithrediadau busnes. Mae’r bartneriaeth hon yn ymestyn ac yn adeiladu ar enw rhagorol Coleg Gŵyr Abertawe fel arweinydd mewn sgiliau digidol a darpariaeth seiberddiogelwch.
Darllen mwy
Adeiladu Talentau Digidol: Coleg Abertawe a Choleg Gŵyr Abertawe yn dathlu llwyddiant prentisiaethau
Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn dathlu cyflawniadau pum prentis o dîm Gwasanaethau Digidol Cyngor Abertawe, sydd wedi cwblhau eu rhaglen brentisiaeth dwy flynedd sef Gweithiwr Proffesiynol Telathrebu. Mae pob un ohonynt wedi llwyddo i sicrhau cyfleoedd gyrfa o fewn y Cyngor, gan nodi carreg filltir sylweddol yn y bartneriaeth rhwng y Coleg a Chyngor Abertawe.
Darllen mwy
Pŵer Trawsnewidiol Prentisiaethau: Hybu Llwyddiant Busnes
Gan Paul Kift, Dirprwy Bennaeth Sgiliau a Phartneriaethau Coleg Gŵyr Abertawe
Mae’r economi yn esblygu ar raddfa barhaus, sy’n golygu bod busnesau yn wynebu pwysau i aros yn gystadleuol, arloesol a chynhyrchiol. Un strategaeth hynod effeithiol nad yw’n cael ei ddefnyddio ddigon yw prentisiaethau. Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe rydym yn gweld effaith drawsnewidiol prentisiaethau ar fusnesau hyd a lled Cymru bob dydd.
Darllen mwy
Coleg Gŵyr Abertawe yn dathlu Wythnos Prentisiaethau Cymru 2025
Mae Wythnos Prentisiaethau Cymru yn ddathliad blynyddol sy’n taflu goleuni ar y rôl hollbwysig y mae prentisiaethau yn ei chwarae wrth lunio gweithlu’r dyfodol, gan rymuso dysgwyr a llywio llwyddiant busnes.
Darllen mwy
Tîm Rocket League Gwdihŵs CGA yn ennill yng Nghystadleuaeth Bett 2025!
Cafodd Tîm Echwaraeon Coleg Gŵyr Abertawe, Gwdihŵs CGA, amser gwych yn nigwyddiad Bett 2025. Fe wnaethant ennill y gystadleuaeth Rocket League yn ogystal â chael cyfle i ymgysylltu ag arweinwyr o fewn y diwydiant, gan arddangos eu hangerdd am chwarae gemau mewn amgylchedd cystadleuol.
Darllen mwy
Coleg yn taflu goleuni ar ei gymorth trawiadol i fyfyrwyr
Roedd yn bleser mawr gan Goleg Gŵyr Abertawe groesawu Sioned Williams, Aelod Rhanbarthol o’r Senedd, i gampws Tycoch yn ddiweddar.
Yn ystod ei thaith o gwmpas y campws, ymwelodd Sioned ag adrannau Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a Sgiliau Byw’n Annibynnol (SBA) y Coleg, yn ogystal â Gwasanaethau Dysgwyr a thîm y Llyfrgell. Yno, roedd staff yn gallu dangos y lefelau amrywiol o gymorth a gynigiwn i fyfyrwyr fel cyngor ar gyllid, gofal bugeiliol, cyfoethogi a lles, a niwroamrywiaeth.
Darllen mwy
Dechrau gyrfaoedd creadigol yng Ngholeg Gŵyr Abertawe
Cafodd myfyrwyr ar amrywiaeth o gyrsiau celf a dylunio yng Ngholeg Gŵyr Abertawe gyfle gwych i gwrdd â chyflogwyr ac artistiaid yn ystod trydedd arddangosfa flynyddol Design 48, a gafodd ei chynnal ar gampysau Gorseinon a Llwyn y Bryn.
Y Coleg ddatblygodd y syniad y tu ôl i Design 48 mewn partneriaeth â Rachael Wheatley o Waters Creative.
Coleg Gŵyr Abertawe yn Lansio Cynllun Strategol Uchelgeisiol ar gyfer 2025-2029
Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch o gyhoeddi lansiad ei Gynllun Strategol ar gyfer 2025-2029, gan osod cyfeiriad uchelgeisiol sy’n adlewyrchu ein hymrwymiad i ragoriaeth mewn addysg, sgiliau a hyfforddiant.
Datblygwyd y cynllun trwy gydweithredu’n helaeth â staff, dysgwyr, cyflogwyr, a rhanddeiliaid allweddol. Mae’n amlinellu gweledigaeth ddewr ar gyfer dyfodol y Coleg a’i rôl hanfodol bwysig wrth drawsnewid bywydau a llywio newid cadarnhaol yn y rhanbarth.
Darllen mwyPagination
- Previous page ‹‹
- Page 12
- Tudalen nesaf ››