Newyddion y Coleg
Myfyriwr medrus yn anelu at Tsieina
Mae Kane Morcom, sy’n astudio Peirianneg Electronig L3 yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, yn paratoi ar gyfer taith newid bywyd mewn ymgais dewr i gynrychioli’r DU ar y llwyfan rhyngwladol yn y ‘gemau olympaidd sgiliau’ yn Tsieina.
Yn dilyn llwyddiant Kane yn ei gystadlaethau sgiliau cenedlaethol WorldSkills UK, mewn partneriaeth â Pearson, mae wedi cyhoeddi y bydd yn ymuno â’r rhaglen hyfforddi dwys 18 mis.
Bydd Kane nawr yn gobeithio cael ei ddewis i’r tîm fydd yn cynrychioli’r DU yn WorldSkills Shanghai ym mis Medi 2026.
Cyhoeddi enillwyr Cymrodoriaeth Addysgu Technegol 2025/2026
Mae’r Arweinydd Cwricwlwm Steve Williams a’r Darlithydd Gerard Morgan o’r adran Peirianneg Electronig yng Ngholeg Gŵyr Abertawe wedi derbyn un o saith Cymrodoriaeth Addysgu Technegol hynod gystadleuol ar gyfer 2025/26.
Rhoddir y dyfarniadau nodedig hyn ar y cyd gan y Sefydliad Addysg a Hyfforddiant (ETF) a’r Comisiwn Brenhinol ar gyfer Arddangosfa 1851.
Bydd cyd-Gymrodoriaeth Steve a Gerard yn edrych ar eu prosiect WorldSkills, The Skills Sphere.
Coleg Gŵyr Abertawe yn Dathlu Partneriaethau Rhyngwladol Cryf
Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch o groesawu eto grŵp amrywiol o fyfyrwyr rhyngwladol sy’n astudio cyrsiau Safon Uwch yn bennaf ar Gampws Gorseinon.
Eleni, mae’r myfyrwyr wedi ymuno â ni o wledydd sy’n cynnwys Tsieina, Fietnam, Canada, Yr Eidal, a Botswana, gan ddod â chyfoeth o brofiadau diwylliannol gyda nhw sy’n gwella ac yn rhyngwladoli cymuned ein Coleg.
Ysbrydoli eich Dyfodol: pam gallai Brentisiaethau Rheoli Cyfleusyterau fod yn ddewis call
Gab Lucy Bird, Rheolwr Masnachol yng Ngholeg Gŵyr Abertawe
Mantais i gyflogwyr a mantais i weithwyr. Gall gyflogwyr elwa o gyfraniadau busnes o’r dechrau a gall weithwyr elwa trwy ennill cymwysterau ochr yn ochr â chyflog – mae prentisiaethau FM yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yn cynnig manteision i bawb.
Darllen mwy
Llongyfarchiadau Cian!
Llongyfarchiadau i Cian Curry, myfyriwr Celf a Dylunio L3 ar dderbyn gwobr alwedigaethol oddi wrth Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru (CALC).
Coleg Gŵyr Abertawe yn ennill medalau yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru
Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn dathlu llwyddiant ysgubol yng Ngwobrau Sgiliau Cymru ar ôl ennill sawl medal.
Fe wnaeth staff a myfyrwyr o’r Coleg gymryd rhan yn y ‘parti gwylio’ a’r seremoni wobrwyo yn Arena Cymdeithas Adeiladu Abertawe, lle enillodd y Coleg bum medal Aur, pum medal Arian a saith medal Efydd.
Darllen mwy
Llwyddiant dwbl i’r Coleg yn nigwyddiad Gwobrau Worldskills
Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cipio dwy wobr yng Ngwobrau Arwyr Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant WorldSkills UK yn Llundain.
Mae’r gwobrau, a noddir gan University Vocational Awards Council (UVAC) a Skills and Education Group, yn cydnabod y rhai sy’n hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant yn y sector addysg.
Roedd y Coleg yn llwyddiannus mewn dau gategori:
Enillodd y Rheolwr Maes Dysgu Amgylchedd Adeiledig, Hannah Pearce, Wobr Menywod mewn STEM, a noddwyd gan Gymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain.
Darllen mwy
Cyrraedd Rownd Derfynol Gwobrau Adnoddau Dynol Prydain 2025
Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch iawn o gyhoeddi ei fod wedi cyrraedd Rownd Derfynol Gwobrau Adnoddau Dynol Prydain 2025.
Mae’r Coleg ar y rhestr fer mewn tri chategori: Menter Lles Gweithwyr y Flwyddyn; Menter Recriwtio y Flwyddyn; ac Arweinydd y Flwyddyn.
Darllen mwyColeg yn ennill Gwobr Seiberddiogelwch y DU
Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cael ei gydnabod yng Ngwobrau Diogelwch Seiber NCSC 2025.
Mae'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) yn cefnogi sefydliadau mwyaf hanfodol y DU, yn ogystal â'r sector cyhoeddus ehangach, diwydiant, busnesau bach a chanolig a'r cyhoedd yn gyffredinol.
Enillodd Peter Scott, Arweinydd Sgiliau Digidol ac Arloesi'r Coleg, Gwobr Aur Coleg y Flwyddyn CyberFirst ar ôl mynychu cynhadledd academaidd flynyddol NCSC yn Leeds.
Sbarduno Twf Economaidd a Diogelu'r Gweithlu i'r Dyfodol: Rôl drawsnewidiol Cynllun Pum Mlynedd Strategol Coleg Gŵyr Abertawe
Gan Kelly Fountain, Pennaeth, Coleg Gŵyr Abertawe. Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, mae ein Cynllun Strategol pum mlynedd newydd yn fwy na map ffordd sefydliadol, mae'n gatalydd ar gyfer gwytnwch economaidd, arloesedd a chyfle. Darllen mwyPagination
- Previous page ‹‹
- Page 11
- Tudalen nesaf ››