Newyddion y Coleg
Mae Bws Mawr Melyn Coleg Gŵyr Abertawe ar ei ffordd i Abertawe
☆ Cadw lygad am Fws Melyn Mawr Coleg Gŵyr Abertawe i gael cyfle i ennill £1000 ar gyfer eich ysgol! ☆ [Cer i The Wave i wybod rhagor]
Darllen mwy
Taith greadigol myfyrwyr Effeithiau Arbennig Theatrig, Gwallt a Cholur y Cyfryngau
Yn ystod y Gwobrau Blynyddol yr wythnos diwethaf roedd myfyrwyr effeithiau arbennig theatrig, gwallt a cholur y cyfryngau y Coleg wedi synnu gwesteion gyda’u harddangosfa syrcas arswyd.
Oherwydd y cyfuniad o golur effeithiau arbennig cymhleth, dyluniadau gwallt cyfareddol a pherfformiadau swynol daeth y syrcas hunllefau yn fyw.
Hwn oedd prosiect terfynol y flwyddyn i’r myfyrwyr prysur. O drawsnewidiadau cyfareddol yng nghynyrchiadau theatr y Coleg i ymddangosiadau swynol mewn confensiynau, mae’r myfyrwyr hyn wedi arddangos eu creadigrwydd a’u doniau diderfyn.
Darllen mwy
Bwletin Swyddi Gwag Prentisiaethau Wythnosol - 3 Gorffennaf
Mae prentisiaethau yn ffordd wych o gael cymwysterau wrth i chi weithio ac ennill cyflog.
Fel un o’r darparwyr prentisiaethau mwyaf yng Nghymru, mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch o rannu amrywiaeth o swyddi gwag prentisiaeth.
Os hoffech wneud cais am y rhain, cysylltwch â’r bobl isod.
3 Gorffennaf_3 July
Noson i’w chofio: Gwobrau Myfyrwyr Blynyddol Coleg Gŵyr Abertawe 2023
Mae myfyrwyr a staff o Goleg Gŵyr Abertawe wedi dathlu blwyddyn arall eto o ragoriaeth academaidd a galwedigaethol.
Darllen mwy
Tîm Peirianneg Coleg Gŵyr Abertawe yn ennill Dyluniad Gorau yn Krazy Races
Roedd canol dinas Abertawe yn byrlymu o gyffro ar Sul y Tadau wrth i Krazy Races gymryd drosodd y strydoedd. Y digwyddiad, a noddwyd gan Goleg Gŵyr Abertawe, oedd ras bocs sebon gyntaf Abertawe, lle gwelwyd cyfranogion mewn gwisg ffansi feiddgar ac yn chwyrlïo o gwmpas strydoedd y ddinas mewn certi geido a wnaed gartref.
Darllen mwy
Gweithdy Canolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin
Ar 12 Mehefin, gaeth myfyrwyr cyfryngau cyfle arbennig i gyd weithio gyda chwmni proffesiynol o'r enw Carlam sydd yn rhan o gymuned Yr Egin, Caerfyrddin i greu rhaglen byw ac yna ei ffrydio yn fyw.
Buont yn gweithio fel rhan o grŵp i gyflawni tasg o dan amodau amser penodol gan ddatblygu sgiliau ymchwilio, cynhyrchu a gwaith camera. Cawsant brofiad o gynllunio, ffilmio a golygu cynnwys promo gan ystyried yr elfennau gwahanol o greu rhaglen.
Darllen mwy
Art, Design and Photography Summer Shows - June 2023!
Ymunwch â ni am arddangosfa anhygoel o dalent a chreadigedd yn Arddangosfa Gelf yr Haf, yn cynnwys gwaith eithriadol dysgwyr Safon Uwch a Galwedigaethol Lefel 3 o Goleg Gŵyr Abertawe! Mae’r gyfres hon o arddangosfeydd yn rhoi llwyfan i’r genhedlaeth nesaf o artistiaid a dylunwyr fynegi eu safbwyntiau ar themâu a materion amrywiol.
Darllen mwy
Pennaeth y Coleg yn rhannu 10 tip adolygu ar gyfer cyfnod arholiadau di-straen
Mae cyfnod arholiadau wedi cychwyn ac mae pobl ifanc hyd a lled Abertawe yn ymgymryd ag arholiadau ac asesiadau terfynol ar gyfer cymwysterau TGAU, Safon Uwch a galwedigaethol.
Yn naturiol, mae cyfnod arholiadau yn gallu peri pryder i rai myfyrwyr a’u teuluoedd. Tra bo llawer yn dal i wella o sgileffeithiau’r pandemig, mae’n bwysig cydnabod bod straen iechyd meddwl a phryder yn normal, a gallwn ni gymryd camau i leddfu pryder.
Darllen mwy
Llwyddiant cenedlaethol i fyfyrwyr yn yr Urdd
Bu llwyddiant arbennig i’n myfyrwyr yn Eisteddfod yr Urdd Llanymddyfri yn wythnos diwethaf. Bu dros 60 o fyfyrwyr i gyd yn cystaldu mewn amrywiol gystadlaethau llwyfan a gwaith cartref. Coleg Gŵyr Abertawe oedd y coleg addysg bellach fwyaf llwydianus o’r holl golegau yng Nghymru eleni.
ROWND GENEDLAETHOL
Llun 2D Bl10 a dan 19 oed – 1af Lara Rees
Ffotograff wedi’i addasu Bl.10 a dan 19 oed – 1af Sam Sarsero | 2il Morgan Mason
Ffotograffiaeth: Llun Lliw Bl10 a dan 19 oed – 1af Steffan Thomas | 3ydd Archie Craven
Darllen mwy
Taith annisgwyl i Stryd Downing i fyfyrwyr
Yn ddiweddar, aeth ein myfyrwyr Safon UG Llywodraeth a Gwleidyddiaeth i Lundain lle gwelon nhw ambell i olygfa enwog iawn.
Roedd yn ddiwrnod llawn gweithgareddau. Gan gychwyn o Abertawe am 5.30am, ymwelodd y myfyrwyr â Goruchaf Lys y DU a mwynhau taith o gwmpas Whitehall.
Cawson nhw eu tretio hefyd i daith o gwmpas y Senedd gan gynnwys Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi. Cafwyd gweithdy ar wneud cyfreithiau ar ddiwedd y daith, wedi’i ddilyn gan sesiwn holi ac ateb gydag AS Gŵyr Tonia Antoniazzi.
Darllen mwyPagination
- Previous page ‹‹
- Page 32
- Tudalen nesaf ››