Skip to main content
myfyrwyr Effeithiau Arbennig Theatrig, Gwallt a Cholur y Cyfryngau yng Ngwobrau Myfyrwyr 2023

Taith greadigol myfyrwyr Effeithiau Arbennig Theatrig, Gwallt a Cholur y Cyfryngau

Yn ystod y Gwobrau Blynyddol yr wythnos diwethaf roedd myfyrwyr effeithiau arbennig theatrig, gwallt a cholur y cyfryngau y Coleg wedi synnu gwesteion gyda’u harddangosfa syrcas arswyd.

Oherwydd y cyfuniad o golur effeithiau arbennig cymhleth, dyluniadau gwallt cyfareddol a pherfformiadau swynol daeth y syrcas hunllefau yn fyw.

Hwn oedd prosiect terfynol y flwyddyn i’r myfyrwyr prysur. O drawsnewidiadau cyfareddol yng nghynyrchiadau theatr y Coleg i ymddangosiadau swynol mewn confensiynau, mae’r myfyrwyr hyn wedi arddangos eu creadigrwydd a’u doniau diderfyn.

Rhaid inni roi sylw arbennig i’r myfyriwr effeithiau arbennig theatrig, gwallt a cholur y cyfryngau Orlagh Cronin. Enillodd hi Wobr Bernie Wilkes – Myfyriwr y Flwyddyn Gwallt, Harddwch a Holisteg a gwobr Myfyriwr Ysbrydoledig y Flwyddyn hefyd.

Yng nghynhyrchiad theatr y Coleg Elf ym mis Rhagfyr, roedd y myfyrwyr yn ganolbwynt y sylw gan ddod â’u harbenigedd mewn gwallt, colur ac effeithiau arbennig i greu profiad hudolus. Roedd eu manylder a’u medrau celfyddydol wedi bywiogi’r stori annwyl, gan adael y gynulleidfa yn syfrdan ac ychwanegu dilysrwydd at y perfformiadau.

Gan gofleidio byd ffantasi, aeth y myfyrwyr ati i weithio ar brosiect ‘Next Look Fantasy’, gan dynnu ysbrydoliaeth o ffilmiau, teledu a gemau. Fe wnaeth eu dyluniadau llawn dychymyg wthio ffiniau celfyddyd colur a gwallt, ac o ganlyniad cafwyd edrychiadau cyfareddol seiliedig ar y rhai a welir yn Bridgerton, Beetlejuice ac Alice in Wonderland.

Yn ddiweddar yng Nghonfensiwn Comics a Gemau Abertawe, dangosodd y myfyrwyr talentog hyn eu sgiliau trwy edrychiadau arswydus a syfrdanodd y rhai a fu’n bresennol. Fe wnaethon nhw gostrelu rhin yr anafiadau erchyll trwy eu meistrolaeth ar golur effeithiau arbennig a dyluniadau gwallt. Yn ogystal, fe wnaethon nhw rannu eu harbenigedd, gan gynnig cymhorthion a thriciau gwerthfawr er mwyn ysbrydoli pobl eraill i archwilio eu creadigrwydd eu hunain.

Parhaodd y myfyrwyr â’u harchwiliad celfyddydol trwy drochi eu hunain yn y thema ‘Hud a Lledrith’, gan greu edrychiadau ffantasi swyngyfareddol. Aeth y dyluniadau hyn â’r gwylwyr i fyd hudolus, gan dynnu sylw at allu’r myfyrwyr i drawsnewid nodweddion arferol yn waith celfyddydol anhygoel. Roedd eu manylder a’u doniau creadigol yn brawf o’u hymroddiad i’w crefft a’u hangerdd am ddod â chysyniadau hudol yn fyw.

O gynyrchiadau Coleg i gonfensiynau, mae’r myfyrwyr effeithiau arbennig theatrig, gwallt a cholur y cyfryngau wedi creu argraff fawr trwy eu prosiectau trawsnewidiadol eleni.