Newyddion y Coleg
Llwyddiant myfyrwyr cerdd yng nghymal rhanbarthol Cystadleuaeth Sgiliau Cymru
Mae bandiau sy’n cynnwys myfyrwyr galwedigaethol Lefel 3 Cerddoriaeth o Goleg Gŵyr Abertawe wedi ennill rhai o’r prif wobrau yng nghymal rhanbarthol Cerddoriaeth Boblogaidd Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn ddiweddar.
Roedd y myfyrwyr, o’r cwrs Diploma Estynedig ar gampws Llwyn y Bryn, wedi cystadlu yn erbyn cerddorion o wyth coleg arall ar hyd a lled Cymru, gan berfformio dwy gân wreiddiol yr un o flaen panel o feirniaid.
Enillodd Zen Dogs y wobr Aur ac enillodd Inscape y wobr Efydd yn ystod y digwyddiad yn Theatr Ffwrnes, Llanelli.
Darllen mwy
Dim Ond Ni - Myfyrwyr Sgiliau Byw'n Annibynnol yn agor arddangosfa o'u gwaith
Ym mis Ionawr 2015, dechreuodd Oriel Gelf Glynn Vivian, fel rhan o'i rhaglen ysgolion uwchradd 4Site, brosiect 10 wythnos gyda grŵp o fyfyrwyr o Adran Sgiliau Byw'n Annibynnol, Coleg Gŵyr Abertawe.
Ar gampws Tŷ Coch Coleg Gŵyr Abertawe, mae'r adran yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau wedi'u haddasu i fyfyrwyr ag anghenion dysgu arbenigol.
Wythnos Prentisiaid 2015
Ymunodd Coleg Gŵyr Abertawe â'r Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes a Chyflogaeth Hyfforddiant (LLETS) a 96.4FM The Wave i ddathlu Wythnos Prentisiaid 2015.
Roedd y gohebydd crwydrol Claire Scott wedi treulio amser yn ymweld â phrentisiaid a chyflogwyr ar draws y ddinas i glywed am eu profiadau.
Darllen mwy
Myfyrwyr yn cwrdd â phobl flaenllaw o’r diwydiant cerddoriaeth
Roedd myfyrwyr Technoleg Cerdd Coleg Gŵyr Abertawe wedi cymryd rhan mewn gweithdy arbennig lle cawsant gyfle i gymdeithasu â gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant.
Cynhaliwyd y digwyddiad ‘Beth sydd Nesaf yn y Diwydiant Cerddoriaeth?’ gan Grŵp NPTC (campws Castell-nedd).
Darllen mwy
Myfyrwyr peirianneg yn wynebu cyfweliadau ffug
Yn ddiweddar aeth myfyrwyr BTEC Lefel 3 Peirianneg Coleg Gŵyr Abertawe i sesiynau cyfweliadau ffug gyda chyflogwyr lleol mewn digwyddiad a drefnwyd gan Swyddog Menter y coleg Lucy Turtle a Gareth Price o Yrfa Cymru.
“Prif amcanion y digwyddiad hwn oedd paratoi myfyrwyr ar gyfer byd gwaith a rhoi cyngor a chyfarwyddyd ar ddatblygu eu CVs a sgiliau cyfweld,” dywedodd Lucy.
Ymhlith y cyflogwyr oedd Tata Steel, Prifysgol Abertawe a’r Lluoedd Arfog. Roedd pob un wedi rhoi adborth adeiladol i’r myfyrwyr ar ôl eu cyfweliadau.
Darllen mwy
Melys moes mwy
Mae myfyrwraig Arlwyo Coleg Gŵyr Abertawe, Charlotte Walker, wedi ennill y wobr Arian yn rownd derfynol coginio Pâtissierie Cystadleuaeth Sgiliau Cymru.
Mae Charlotte yn astudio ar gyfer cymhwyster VRQ Lefel 2 Coginio Proffesiynol ar gampws Tycoch ac roedd hi wedi cystadlu yn erbyn wyth myfyriwr arall ar y diwrnod.
Roedd Charlotte wedi paratoi dewis blasus o ddanteithion melys ar gyfer y digwyddiad gan gynnwys roulade wedi'i addurno a'i lenwi â crème pâtissière, bisgedi sabl almon a phwdin swffle toddi yn y canol mewn dim ond tair awr.
Darllen mwy
Myfyrwyr menter yn ennill Gwobr Ian Bennett
Mae tîm o fyfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe wedi ennill Gwobr Ian Bennett yn Rownd Derfynol yr Her Menter Fyd-eang yng Nghaerdydd.
Roedd myfyrwyr galwedigaethol y Cyfryngau Creadigol Kieran Palfrey, Talisha Weston ac Oliver Draper a’r myfyrwyr Safon Uwch Brad David, Rhys Cozens, Shazia Ali a Josh David-Reed wedi cynrychioli’r coleg yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.
Mae Gwobr Ian Bennett yn cael ei rhoi i’r tîm ‘mwyaf difyr, mwyaf cymwynasgar a mwyaf cefnogol' yn dilyn pleidlais gan y myfyrwyr eraill yn ystod yr her dau ddiwrnod.
Darllen mwyLlwyddiant Eisteddfod Yr Urdd
Llongyfarchiadau i Katherine Ress a Emily Olsen ar ddod yn gyntaf yn Eisteddfod Cylch Uwchradd Llwchwr nos Wener 6ed Fawrth yn Ysgol Gyfun Gŵyr. Roedd Emily yn cystadlu yn yr unawd piano dan 19oed, a Katherine yn yr unawd i ferched dan 19.
Cafwyd noson hir, ond llawn adloniant, a chanmoliaeth uchel i’r ddau. Bydd yr Eisteddfod Sir yn Ysgol Gyfun Bryntawe ar yr 20fed Fawrth. Bydd Ben Anthony yn ymuno a Katherine Rees i ganu deuawd, a bydd Katherine hefyd yn canu alaw werin dan 19 yno.
Darllen mwy
Yr Academi Rygbi yn ennill Tlws Cynghrair Colegau Elit Undeb Rygbi Cymru
Mae Academi Rygbi Coleg Gŵyr Abertawe wedi cipio Tlws Cynghrair Colegau Elit Undeb Rygbi Cymru ar ôl ennill pob un ond tair gêm eleni.
“Mae ennill y tlws yn llwyddiant mawr i'r tîm ac yn un o'r targedau roedden ni wedi'u gosod i'n hunain ar ddechrau'r tymor," dywedodd y darlithydd Dan Cluroe.
Mae blwyddyn lwyddiannus yr Academi wedi gorffen gyda saith o'i chwaraewyr XV 1af yn cynrychioli tîm dan 18 y Gweilch yn rownd derfynol y gystadleuaeth ranbarthol gradd oedran, gyda'r tîm yn dathlu buddugoliaeth dda yn erbyn Gleision Caerdydd.
Darllen mwy
Llwyddiant dilyniant i fyfyrwyr sy'n Paratoi ar gyfer y Lluoedd Arfog
Mae tri myfyriwr sydd ar fin graddio o gwrs Paratoi ar gyfer y Lluoedd Arfog Coleg Gŵyr Abertawe ar eu ffordd i borfeydd newydd ar ôl llwyddo yn eu cais i ymuno â'r Llynges Frenhinol.
Mae Hamish Fleming, Matthew Milner a John Sanderson i gyd yn cytuno fod y cwrs 18 wythnos ar gampws Tycoch wedi eu helpu i baratoi yn feddyliol ac yn gorfforol ar gyfer yr heriau sy'n eu hwynebu.
Darllen mwyPagination
- Previous page ‹‹
- Page 92
- Tudalen nesaf ››