Skip to main content

Gwybodaeth bwysig am gasglu tystysgrifau (BTEC, City & Guilds ac ati)

TYSTYSGRIFAU: BTEC / CITY & GUILDS / EAL / VTCT / CACHE / NCFE / IFS

Bydd tystysgrifau nifer o gyrff dyfarnu ar gael cyn bo hir i’w casglu o’r coleg (gweler diwedd yr hysbysiad hwn i gael manylion penodol). Bydd cerdyn yn cael ei bostio atoch sy’n rhoi manylion yr amserau casglu ac yn eich hysbysu o’r prosesau casglu. Bydd y cardiau yn darllen fel a ganlyn:

**

Campws Tycoch
Mae’ch tystysgrif(au) bellach yn y coleg ac ar gael i’w chasglu (casglu) o’r Dderbynfa (gweler yr amserau isod). Rhaid i chi ddod â’r cerdyn hwn gyda chi a rhyw ddull adnabod gyda llun fel prawf o bwy ydych chi. Pan fyddwch yn cyrraedd rhowch fanylion y tystysgrifau rydych yn eu disgwyl. Os bydd rhywun yn casglu ar eich rhan rhaid i chi roi llythyr awdurdodi wedi’i lofnodi iddo/iddi a rhaid i’r unigolyn ddangos prawf o bwy ydyw.

Bydd y coleg yn cadw tystysgrifau am uchafswm o 12 mis, ac yna byddant yn cael eu dinistrio yn unol â rheoliadau byrddau arholi. Os na allwch ddod i’r coleg ac rydych am i ni anfon y dystysgrif atoch, byddwn yn gwneud hynny ar ôl derbyn £1 i dalu am bris postio, pacio a chofrestru. Dylech roi’ch enw a’ch cyfeiriad (h.y. y cerdyn hwn) a gwnewch sieciau’n daladwy i ‘Coleg Gŵyr Abertawe’. Rhowch eich rhif adnabod myfyriwr a/neu fanylion banc ar ochr gefn y siec. Nid yw’r coleg yn cymryd cyfrifoldeb am golled unrhyw dystysgrifau ar ôl eu postio. Os hoffech i ni anfon eich tystysgrif atoch drwy bost cofnodedig gallwn wneud hynny am gost postio uwch sef £2.50 - nodwch hyn ar eich cais fel y manylir uchod.

Yr amserau casglu yw:
Yn ystod y tymor:
15:00 – 16:00 Dydd Llun a Dydd Mercher
15:00 – 20:30 Dydd Mawrth a Dydd Iau

Hanner tymor:
09:00 – 16:00 Dydd Llun - Dydd Iau

Bydd y coleg ar gau rhwng 19 Rhagfyr a 4 Ionawr 2016.

**

Campws Gorseinon
Mae’ch tystysgrif(au) bellach yn y coleg ac ar gael i’w chasglu (casglu) o Swyddfa Arholiadau’r coleg. Rhaid i chi ddod â’r cerdyn hwn gyda chi a rhyw ddull adnabod gyda llun fel prawf o bwy ydych chi a rhowch fanylion y tystysgrifau rydych yn eu disgwyl. Os bydd rhywun yn casglu ar eich rhan rhaid i chi roi llythyr awdurdodi wedi’i lofnodi iddo/iddi a rhaid i’r unigolyn ddangos prawf o bwy ydyw.

Bydd y coleg yn cadw tystysgrifau am uchafswm o 12 mis, ac yna byddant yn cael eu dinistrio yn unol â rheoliadau byrddau arholi. Os na allwch ddod i’r coleg ac rydych am i ni anfon y dystysgrif atoch, byddwn yn gwneud hynny ar ôl derbyn £1 i dalu am bris postio, pacio a chofrestru. Dylech roi’ch enw a’ch cyfeiriad (h.y. eich cerdyn) a gwnewch sieciau’n daladwy i ‘Coleg Gŵyr Abertawe’. Rhowch eich rhif adnabod myfyriwr a/neu fanylion banc ar ochr gefn y siec. Gallwn gynnig gwasanaeth post cofnodedig hefyd am £2.50. Nid yw’r coleg yn cymryd cyfrifoldeb am golled unrhyw dystysgrifau ar ôl eu postio.

Neu gallwch ffonio 01792 890780 a threfnu i ni gadw’ch tystysgrif(au) yn y Dderbynfa i chi ei chasglu (eu casglu) yn ystod y prynhawn (mae’r coleg ar gau bob nos bellach). Dyma’r amserau casglu:

Yn ystod y tymor yn unig:
9.30am –12.30pm Dydd Llun - Dydd Iau

Ni fydd unrhyw gasgliadau yn ystod Mai a Mehefin tra bydd arholiadau’n cael eu cynnal, ac ni fydd casgliadau o 17 Awst tan yr wythnos olaf ym Medi oherwydd canlyniadau / ymholiadau ar ôl y canlyniadau.

Bydd y coleg ar gau rhwng 19 Rhagfyr a 4 Ionawr 2016.

**

Bydd tystysgrifau Safon UG ac Uwch, a thystysgrifau TGAU, ar gael tua diwedd mis Tachwedd a byddwn yn rhoi gwybod i fyfyrwyr pan fydd y rhain ar gael i’w casglu.

Bydd gwybodaeth am dystysgrifau Sgiliau Bywyd ESOL ar gael i fyfyrwyr yn gynnar y mis nesaf a byddwch yn gallu eu casglu o dderbynfa Llwyn y Bryn.

Bydd tystysgrifau Agored yn cael eu postio i gyfeiriadau cartref cyn bo hir.

Mae tystysgrifau cyrsiau Mynediad Agored ar gael i’w casglu o’r coleg.

Mae tystysgrifau Agored ESOL ar gael o Lwyn y Bryn.