Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch o gyhoeddi bod yr holl waith ymroddedig ym maes lles ac ymwybyddiaeth o’r menopos wedi cael ei gydnabod ar raddfa genedlaethol. Rydym wedi cael ein henwebu ar gyfer nifer o wobrau anrhydeddus.
Mae Menter Menopos y Coleg wedi cyrraedd y rhestr fer yng Ngwobrau Hyfforddiant Prydain yng nghategori Menter Ymwybyddiaeth y Flwyddyn. Yn ogystal, mae menter Lles y Coleg wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori Menter Gwasanaeth Cyhoeddus y Flwyddyn. Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn digwyddiad yn Llundain ar 8 Gorffennaf.
Rydym hefyd wedi derbyn cydnabyddiaeth yn y Gwobrau Gwella Ansawdd, lle mae ein menter lles wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Menter Gwella Ansawdd y Flwyddyn.
Mae Sarah King, Dirprwy Bennaeth Pobl a Lles Coleg Gŵyr Abertawe, sy’n gyfrifol am arwain mentrau lles a datblygiad y Coleg, wrth ei bodd:
“Rydyn ni wrth ein bodd bod ein mentrau menopos a lles wedi derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol ac wedi cyrraedd rhestrau byrion ar gyfer gwobrau. Mae’r rhaglenni hyn yn cydnabod ein hymrwymiad i hybu iechyd a lles ein staff a’n myfyrwyr. Mae’r gydnabyddiaeth yn adlewyrchiad o’n gwaith caled ac ymroddiad ein tîm cyfan.”