Skip to main content
Pontio i'r Coleg: Safbwynt Rhiant

Pontio i'r Coleg: Safbwynt Rhiant

“Fel rhieni, roedd gweld Bethan yn datblygu o fod yn rhywun eithaf pryderus, i fenyw ifanc yn ffynnu mewn amgylchedd dysgu mwy aeddfed yn golygu popeth i ni.”

Mae gwylio'ch plentyn yn cymryd y cam mawr nesaf o'r ysgol i'r coleg yn gallu teimlo'n gyffrous ac yn llethol.

Siaradon ni â Helen a James Nicholas, rhieni balch o Gilâ. Cwblhaodd eu merch Bethany ei chyrsiau Safon Uwch yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yn 2024. Heddiw, mae hi'n ffynnu fel myfyriwr Meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.  

Os yw'ch plentyn chi yn paratoi i gymryd yr un cam ym mis Medi, dyma'r hyn y gallwch ei ddisgwyl - o'r nerfau cynnar i'r gwobrwyon parhaol.

Beth wnaeth i Goleg Gŵyr Abertawe sefyll allan o blith dosbarthiadau chwech neu golegau lleol eraill? 

Roedd y noson agored yn drobwynt go iawn. Roedd Bethany yn gallu cael sgyrsiau manwl â staff am y cyrsiau a'r cyfleoedd oedd ar gael. Yr hyn wnaeth sefyll allan oedd pa mor bersonol ac uchelgeisiol yw'r cymorth, roedd yn teimlo fel cam yn uwch na'r hyn oedd ar gael mewn dosbarthiadau chwech lleol. Fe wnaeth hyn ysgogi brwdfrydedd Bethany ymhellach dros y pynciau hynny roedd hi'n eu mwynhau, ac roedd yn amlwg i ni ei bod hi eisoes yn dychmygu ei dyfodol yno. Roedd y cyfleusterau gwyddoniaeth yn arbennig o eithriadol, yn enwedig y labordy, oedd yn teimlo fel yr amgylchedd perffaith i Bethany, sydd bob amser wedi breuddwydio am astudio Meddygaeth yn y brifysgol. Ar ôl y noson honno, roedden ni'n teimlo'n gyffrous ac roedden ni'n gwybod mai Coleg Gŵyr Abertawe oedd y lle iawn iddi.

Sut oeddech chi'n teimlo pan ddechreuodd Bethany yng Ngholeg Gŵyr Abertawe? 

Roedden ni'n gwybod y byddai'r pontio rhwng yr ysgol a'r coleg yn gam mawr, ond roedden ni yr un mor gyffrous â Bethany. Roedd ei hagwedd hi'n bositif o'r diwrnod cynaf, ac roedd hynny wedi rhoi tawelwch meddwl i ni. Yn wahanol i mi, [Helen, mam] aeth fy ngŵr i'r coleg ac felly roedd e'n deall y manteision lawer sy'n mynd law yn llaw â'r profiad hwnnw. Wrth gwrs, fel rhiant mae rhywfaint o nerfusrwydd bob amser, ond fe wnaeth Bethan ymgartrefu'n gyflym - roedd hi'n edrych yn hapus ac roedd hynny wedi gwneud i ni deimlo'n hyderus ac yn falch.  

Sut roeddech chi'n teimlo ar ôl i Bethany setlo i fywyd coleg? 

Roedd yn rhyddhad mawr ac roedden ni mor falch. Mae symud o ysgol uwchradd leol a theithio yn bellach i ffwrdd, rheoli eich amserlen eich hun, a chymryd cyfrifoldeb llawn am eich dysgu yn gam mawr i unrhyw un yn ei arddegau. Ond fe wnaeth Bethany gofleidio'r annibyniaeth. O fewn y misoedd cyntaf, roedd hi'n ffynnu, yn codi ar ei phen ei hun, yn dal y bws i fynd i'w darlithoedd hi, ac yn dilyn trefn reolaidd. Roedd hi'n wych ei gweld hi'n tyfu yn oedolyn ifanc hyderus oedd yn gyffrous am ei hastudiaethau a'i phrofiadau o ddydd i ddydd.  

Pa fath o ofal a chymorth safodd allan yng Ngholeg Gŵyr Abertawe? 

Roedd y cymorth a gafodd hi drwy Raglen Anrhydeddau CGA a'r llwybr paratoi MDM (meddygon, deintyddion a milfeddygon) yn rhagorol. O gyfweliadau ffug i adborth a mentora wedi'u teilwra, roedd lefel y gofal yn eithriadol. Aeth ymhell tu hwnt i gymorth academaidd. Fe wnaeth hi fagu hyder a hunangred oedd eu hangen arni. Roedd hi bob amser wedi bod â diddordeb mewn meddygaeth, ac roedd y cyngor gan staff oedd yn deall go iawn beth oedd prifysgolion yn chwilio amdano wedi gwneud byd o wahaniaeth. Fel rhieni, roedd ei gweld hi'n datblygu o fod yn rhywun pryderus i fenyw ifanc yn ffynnu mewn amgylchedd dysgu mwy aeddfed yn golygu popeth i ni. Mae'r twf hwnnw wedi aros gyda hi yn y brifysgol, a dechreuodd hyn oll yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.

Oedd yna foment a safodd allan yn ystod amser Bethany yn CGA? 

Yn bendant - pan na chafodd hi'r canlyniadau roedd hi'n gobeithio eu cael ar ddiwedd ei blwyddyn gyntaf. Gallai fod wedi bod yn ergyd fawr, ond fe wnaeth y tîm yn y Coleg lunio cynllun gweithredu wedi'i deilwra a chynnig cymorth cadarn iddi. Fe wnaeth yr anogaeth honno ei helpu i ailffocysu, ac aeth hi ymlaen i gael canlyniadau ardderchog yn yr ail flwyddyn. Roedd yn adeg ddiffiniol o wydnwch, a byddwn ni wastad yn ddiolchgar am y rôl a chwaraeodd y Coleg wrth ei helpu i wrthdroi pethau.

Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i rieni sy'n teimlo'n nerfus am eu plentyn sy'n symud o'r ysgol i'r coleg? 

Mae'n hollol normal i deimlo'n bryderus; wedi'r cyfan, mae'n gam mawr. Ond bydden ni'n dweud bod rhywle fel CGA yn gwneud y cam hwnnw yn llawer mwy esmwyth. Mae'n gyfnod pontio perffaith rhwng yr ysgol a'r brifysgol. Mae'n hybu annibyniaeth, ffrindiau newydd, a chyfrifoldeb go iawn. Roedd rhaid i mi [James, dad] fynd i'r coleg fy hun gan nad oedd chweched dosbarth yn fy ysgol i, ac roedd y profiad wedi fy mharatoi'n llwyr ar gyfer y brifysgol. Roedd hyn yn wir i Bethany hefyd. Cafodd hi le i dyfu yn bersonol ac yn academaidd.

Os yw'ch plentyn yn aros am ganlyniadau arholiadau ac eisiau archwilio popeth sydd ar gael yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, cysylltwch â'r tîm yn uniongyrchol ar 01792 284 000 / admissions@gcs.ac.uk neu ewch i: https://www.gcs.ac.uk/cy/ymadawyr-ysgol