Skip to main content
Seren rygbi Alun Wyn Jones yn hyrwyddo dysgu gydol oes fel llysgennad dros Wythnos Addysg Oedolion 2025

Seren rygbi Alun Wyn Jones yn hyrwyddo dysgu gydol oes fel llysgennad dros Wythnos Addysg Oedolion 2025

Mae eicon rygbi Cymru, Alun Wyn Jones, wedi lansio Wythnos Addysg Oedolion 2025, wrth iddo ddechrau rôl newydd fel llysgennad ymgyrch genedlaethol sy’n dathlu dysgu gydol oes. 

Mae’r wythnos, a gynhelir rhwng 15 a 21 Medi, yn cael ei rhedeg gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, ac mae’n cynnwys cyrsiau am ddim, digwyddiadau, a sesiynau cofrestru ledled Cymru. 

Y llynedd, fe wnaeth mwy na 6,000 o bobl gymryd rhan mewn dysgu mewn dros 600 o ddigwyddiadau a gynhelir yn ystod mis Medi, o ddysgu codio a sgiliau digidol i chwarae’r wcelele, gwella sgiliau rhifedd a meistroli macrame.

Yn enwog am ei yrfa rygbi ddigyffelyb gyda Chymru a Llewod Prydain ac Iwerddon, mae Alun Wyn hefyd yn eiriolwr angerddol dros addysg. Ochr yn ochr â’i lwyddiannau chwaraeon, mae’n meddu ar radd yn y gyfraith gan Brifysgol Abertawe ac mae hefyd yn dysgu Cymraeg. Mae ei ymrwymiad i ddatblygiad personol wedi arwain at radd anrhydeddus gan Brifysgol Abertawe, sy’n cydnabod ei gyflawniadau gyrfaol ar y cae ac oddi arno.

I nodi’r lansiad, cymerodd ran mewn cwrs addysg oedolion mewn gwaith coed yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, gan ymuno â chyd-ddysgwyr i danlinellu grym trawsnewidiol addysg ar unrhyw adeg mewn bywyd.

Wrth siarad yn y lansiad, dywedodd:

“Mae dysgu bob amser wedi bod yn rhan o’m taith, boed hynny ar y cae, neu yn yr ystafell ddosbarth. Roedd cymhwyso fel cyfreithiwr wrth chwarae rygbi proffesiynol yn dipyn o her, ond fe wnaeth hyn ddysgu gwerth disgyblaeth, chwilfrydedd, a gwydnwch i mi. 

“Mae dysgu Cymraeg fel oedolyn yn garreg filltir arall sy’n fy helpu i gysylltu’n fwy dwfn â’m hetifeddiaeth a’m cymuned a dwi’n falch o’r ymdrech dwi’n ei wneud i astudio a’i ymarfer.

“Dwi bob amser yn cael ysbrydoliaeth gan bobl sy’n dechrau neu’n parhau i ddysgu, boed hynny i newid gyrfa, magu hyder, neu archwilio rhywbeth newydd.”

Wythnos Addysg Oedolion yw dathliad mwyaf Cymru o ddysgu gydol oes, sydd â’r nod o gael pobl i gymryd y cam cyntaf tuag at ddysgu sgiliau newydd a magu hyder. Mae’r ymgyrch yn annog mwy o oedolion i ddarganfod amrywiaeth eang o gyfleoedd dysgu, i archwilio eu hopsiynau a rhoi cynnig ar rywbeth newydd beth bynnag yw eu hoedran.

Mae cyrsiau ar gael ar-lein ac wyneb yn wyneb, ac yn rhedeg mewn cymunedau a gweithleoedd drwy Gymru benbaladr trwy golegau, prifysgolion, amgueddfeydd, llyfrgelloedd, darparwyr hyfforddiant, a chanolfannau cymunedol. 

Gall pobl sy’n byw yng Nghymru gymryd rhan mewn Wythnos Addysg Oedolion, gyda nifer o gyrsiau ar gael am ddim neu am bris rhatach. Gellir archwilio cyfleoedd trwy wefan Wythnos Addysg Oedolion neu drwy ymweld â Cymru’n Gweithio, lle gall pobl fanteisio ar gyngor personol ar lwybrau dysgu, cymorth ariannol, ac arweiniad gyrfaol hefyd.

Ychwanegodd Joshua Miles, Cyfarwyddwr y Sefydliad Dysgu a Gwaith:

“Mae Alun Wyn Jones yn ymgorffori ysbryd dysgu gydol oes. Mae ei stori yn atgof pwerus nad yw dysgu yn dod i ben pan fydd addysg ffurfiol yn gorffen. Rydyn ni wrth ein bodd o’i gael fel ein llysgennad eleni, gan ein helpu i ysbrydoli miloedd o oedolion ar draws Cymru i gymryd y cam cyntaf yn ôl i ddysgu neu barhau ar eu taith ddysgu.

“Bob blwyddyn, rydyn ni’n clywed straeon anhygoel gan bobl sydd wedi trawsnewid eu bywydau trwy addysg oedolion – o ennill cymwysterau newydd a dod o hyd i gyflogaeth, i fagu hyder ac ailgysylltu â’u cymunedau. Mae Wythnos Addysg Oedolion yn ymwneud â dathlu’r siwrneiau hynny a gwneud yn siŵr bod pawb yn gwybod bod dysgu yn addas iddyn nhw, ni waeth beth yw eu hoedran, eu cefndir, na’u man cychwyn.

“Drwy gydol mis Medi, bydd sesiynau blasu, gweithdai, gweminarau, a diwrnodau agored, gan ei gwneud yn haws i bobl roi tro ar rywbeth newydd. 

“O lefel dechreuwyr i gymwysterau uwch, mae’r cyrsiau yn gynhwysol ac yn hygyrch i bawb yng Nghymru sydd am ddysgu rhywbeth newydd.”

Dywedodd Kelly Fountain, Prif Swyddog Gweithredol Coleg Gŵyr Abertawe a Chadeirydd Partneriaeth Ranbarthol Dysgu Oedolion:

“Roedden ni’n falch dros ben o groesawu Alun Wyn Jones i lansio Wythnos Addysg Oedolion 2025 yma yng Ngholeg Gŵyr Abertawe. Mae ei angerdd am ddysgu ar bob adeg o fywyd yn adlewyrchu yn union beth mae’r ymgyrch yn ymwneud ag ef, gan ddangos bod addysg i bawb, ni waeth beth yw eich oedran neu’ch cefndir.

“Rydyn ni yr un mor falch o’r cyn-fyfyriwr a chyn-enillydd gwobr Wythnos Addysg Oedolion, Isaac Fabb, y mae ei daith yn dangos effaith drawsnewidiol addysg oedolion. Mae Issac wedi mynd i’r afael â phob her ac wedi rhagori fel saer coed medrus ac mae’n ysbrydoliaeth i eraill. Mae ei stori, fel cynifer o’n dysgwyr, yn profi, gyda’r cymorth iawn, y gall dysgu ddatgloi potensial a thrawsnewid bywydau.’’

Mae’r ymgyrch yn rhan o ymrwymiad ehangach Llywodraeth Cymru i ddatblygu sgiliau ac addysg gynhwysol. 

Fe wnaeth Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, ganmol y fenter:

“Mae Wythnos Addysg Oedolion yn ymwneud â datgloi potensial, ni waeth beth yw’ch oedran neu’ch cefndir, neu’ch profiad blaenorol. Mae’n ymwneud â rhoi’r offer i bobl ffynnu a’u hysbrydoli i beidio byth â rhoi’r gorau i ddysgu.

“Dylai pawb fod â’r cyfle i newid cyfeiriad ac adnewyddu eu gyrfa ar unrhyw adeg o’u bywydau. Yn ddiweddar, ces i’r cyfle i astudio cwnsela. Mae’r profiad wedi fy atgoffa o bŵer dysgu gydol oes.”

I wybod rhagor am gyrsiau blasu am ddim yng Nghymru ac i gymryd rhan mewn cyfleoedd dysgu eraill, chwiliwch am ‘Wythnos Addysg Oedolion Cymru’n Gweithio’.