Skip to main content
Cyn-fyfyriwr yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o actorion

Cyn-fyfyriwr yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o actorion

Fel rhan o weithgareddau Menter parhaus y Coleg, roeddem yn falch dros ben o groesawu’r cyn-fyfyriwr Lucy Quick yn ôl i arwain dosbarth meistr a sesiwn holi ac ateb gyda’n dysgwyr presennol ar Gampws Gorseinon.

Ers astudio cwrs Safon Uwch Drama yn y Coleg, mae gyrfa Lucy wedi ffynnu. Yn wreiddiol, fe wnaeth hi hyfforddi ym maes Theatr Gerdd, a gweithio ar sawl cynhyrchiad yn y West End, cyn dechrau ei busnes ei hun – Perform – lle mae hi bellach yn Bennaeth.

Yn dechrau gyda dim ond dwy ysgol ym Mryn y Briallu ac Islington, mae Perform wedi tyfu i dros 350 o leoliadau ledled Llundain a De-orllewin Lloegr. Erbyn hyn, mae’n cwmpasu cannoedd o ddosbarthiadau wythnosol i blant 4-12 oed, cyrsiau gwyliau a ‘Perform for Schools’ – rhaglen ffyniannus o weithdai mewn ysgolion cynradd.
Mae Lucy yn cyfaddef bod y sgiliau trawsdrosglwyddadwy a enillodd fel perfformiwr Theatr Gerdd wedi bod o fantais mawr iddi fel entrepreneur.

Roedd yr anerchiad wedi’i anelu at fyfyrwyr ail flwyddyn y cwrs Celfyddydau Perfformio Lefel 3 a dysgwyr Actio a Theatr Gerdd Lefel 4, y mae llawer ohonynt yn mynd trwy’r broses glyweld ar hyn o bryd ar gyfer ysgolion drama arbenigol.

“Roedden ni wrth ein bodd bod Lucy yn gallu neilltuo amser o’u hamserlen brysur i ddychwelyd i Gorseinon a threulio amser gyda’n myfyrwyr,” meddai Wyn Richards, Arweinydd Cwricwlwm Diploma Proffesiynol UAL Lefel 4 mewn Perfformio (Actio). “Roedd yn ysbrydoliaeth ei chlywed hi’n siarad am ei llwybr gyrfa ac fe wnaeth hi gynnig cyngor ardderchog iddyn nhw, fel tips ar gyfer clyweliadau, sut i ddelio â nerfau a sut i wneud eu ffordd ym myd cystadleuol theatr gerdd.”