Cafodd uwch reolwyr y Coleg gyfle i gael cip y tu ôl i’r llenni ar adeilad newydd Campws Gorseinon yn ddiweddar, wrth i’r prosiect gwerth £20.6 miliwn dynnu at ei derfyn.
Gyda’r datblygiad bron yn ei gamau terfynol, mae gwaith yn prysuro ar y safle. Mae timau yn gweithio ar draws yr adeilad i orffen y gwaith ar y tu mewn gan gynnwys peintio, gosod lloriau a gosod drysau. Y tu allan, mae cynnydd hefyd yn weladwy iawn gyda gwaith tirlunio yn mynd rhagddo i siapio’r tiroedd amgylchynol.
Roedd yr ymweliad yn gyfle gwerthfawr i’r uwch dîm arwain weld yn uniongyrchol sut mae’r prosiect yn dod at ei gilydd cyn y trosglwyddiad.
Bydd yr adeilad newydd yn dod â buddion cadarnhaol go iawn i ddysgwyr, gan gynnig ystafelloedd dosbarth newydd sbon a lleoedd cymdeithasol gwell a fydd yn trawsnewid y profiad o astudio ar Gampws Gorseinon.
Aethpwyd â’r grŵp o gwmpas y safle gan Richard Bunn, Rheolwr y Prosiect i’r prif gontractwr Kier, a roddodd ddiweddariad iddyn nhw am y gwaith sydd wedi cael ei wneud gan dynnu sylw at nodweddion allweddol y datblygiad.
“Roedden ni wrth ein bodd o gael taith o gwmpas y lle ac rydyn ni’n edrych ymlaen at agor y drysau i’n staff a’n myfyrwyr yn nes ymlaen yn y flwyddyn,” meddai’r Prif Swyddog Gweithredol, Kelly Fountain. “Cawson ni gyfle i weld maint ac ansawdd adeilad newydd y campws, a fydd yn gaffaeliad mawr i gymuned gyfan y Coleg pan gaiff ei gwblhau.
“Bydd yr adeilad newydd yn dod â buddion cadarnhaol, go iawn i ddysgwyr, gan gynnig ystafelloedd dosbarth newydd sbon a lleoedd cymdeithasol gwell a fydd yn trawsnewid y profiad o astudio ar Gampws Gorseinon.”