Skip to main content

Serameg - Dwys

Rhan-amser
Llwyn y Bryn
Un diwrnod
Ffôn: 01792 284021 (Llwyn y Bryn)

Trosolwg

Yn ystod y gweithdy hwn byddwch yn arbrofi ac yn archwilio’r ffyrdd y gallwch weithio gyda chlai. P’un a ydych chi’n ddechreuwr pur, neu’n edrych i ehangu eich ymarfer, mae’r cwrs hwn yn cynnig lle croesawgar i arbrofi, archwilio a magu hyder ar draws ystod o brosesau a thechnegau clai.

Byddwch yn ennill sgiliau ymarferol a dealltwriaeth o’r theori y tu ôl i wneud nwyddau seramig, gan archwilio gwahanol ddulliau o adeiladu â llaw a gwneud mowld, gan gynnwys:

  • Adeiladu slabiau
  • Erydiad dŵr
  • Sgraffito
  • Gweithio gydag ocsidau metel a charbonad
  • Mowldiau gwasgedig
  • Addurno slip
  • Addurno arwyneb
  • Marmori clai
  • Gwydro.

Byddwn yn darparu arweiniad iechyd a diogelwch drwy gydol y diwrnod, ac felly gallwch ymarfer diogelwch yn hyderus.

Erbyn diwedd y cwrs, byddwch chi’n gadael gydag arteffact seramig unigryw rydych chi wedi’i greu.
 

Gwybodaeth allweddol

Nid oes angen profiad blaenorol, dim ond diddordeb mewn meysydd pwnc cysylltiedig.

Addysgir y cwrs hwn yn y stiwdios celf a dylunio ar Gampws Llwyn y Bryn yn Uplands.

Yn ystod y cwrs, bydd dysgwyr yn cwblhau llyfryn o ganlyniadau, sy’n cael ei asesu ar gyfer tystysgrif y cymhwyster.

Gallai dilyniant o unrhyw gwrs rhan-amser gynnig llwybr i gyrsiau amser llawn mewn celf a dylunio. I ddysgwyr sy’n oedolion sy’n ystyried gyrfa greadigol, gallai’r cwrs Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio ddarparu llwybr dilyniant ar gyfer hyn.

Gwisgwch esgidiau synhwyrol ar gyfer y gweithdai hyn er diogelwch personol.

Sylwch: Mae’r cwrs hwn yn cynnwys ffi stiwdio £20, sy’n daladwy ar y diwrnod.

Cofrestru ar gyrsiau rhan-amser – y diweddaraf

Rydym wrthi yn uwchraddio ein systemau, ac felly nid oes modd cofrestru ar gyrsiau rhan-amser ar-lein ar hyn o bryd.

Os hoffet ti gofrestru, cer i Gampws Tycoch, lle bydd ein tîm yn hapus i helpu.

Rydym hefyd yn cynnal Noson Agored Addysg Oedolion ddydd Mawrth 30 Mehefin lle galli di gofrestru wyneb yn wyneb.

Diolch am dy amynedd wrth i ni gwblhau’r gwelliannau hyn.

Ceramic Intensive
Cod y cwrs: VB042 PLD
02/07/2026
Llwyn y Bryn
4 weeks
Thursday
10am - 2pm
£0
Lefel 2
Ceramics (Sept Start) Mon 13:30pm - LGF
Cod y cwrs: VA042_P02
23/09/2026
Llwyn y Bryn
10 weeks
Monday
1:30 - 4:30pm
TBA
Ceramics (Sept Start) Wed 13:30pm - LGF
Cod y cwrs: VA042_P01
23/09/2026
Llwyn y Bryn
10 weeks
Wednesday
1:30 - 4:30pm
TBA
Ceramics (Jan Start) Mon 13:30pm - LGF
Cod y cwrs: VA042_P04
04/01/2027
Llwyn y Bryn
10 weeks
Monday
1:30 - 4:30pm
TBA
Ceramics (Jan Start) Wed 13:30pm - LGF
Cod y cwrs: VA042_P03
06/01/2027
Llwyn y Bryn
10 weeks
Wednesday
1:30 - 4:30pm
TBA
Ceramics (Apr Start) Mon 13:30pm
Cod y cwrs: VB042_P02
05/04/2027
Llwyn y Bryn
10 weeks
Monday
1:30 - 4:30pm
£70.00
Ceramics (Apr Start) Wed 13:30pm
Cod y cwrs: VB042_P01
07/04/2027
Llwyn y Bryn
10 weeks
Wednesday
1:30 - 4:30pm
£70.00