Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi croesawu’n swyddogol yr ychwanegiad mwyaf newydd i’w Hwb Gwyrdd – coeden ifanc a dyfwyd o hadau y ‘Sycamore Gap’ eiconig.
Gwnaeth y Coleg gais i gael coeden ifanc yn ôl yn 2024 pan gyhoeddwyd menter Coed Gobaith gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Derbyniwyd bron 500 o geisiadau o bob cwr o’r DU am y 49 coeden ifanc (un i gynrychioli pob troedfedd o uchder y goeden eiconig pan gafodd ei thorri i lawr).
“Roedden ni wrth ein bodd pan ddysgon ni ein bod ni’n cael Coeden Gobaith,” meddai Rheolwr Ysgolion Cynorthwyol y Coleg, Kirsten Collins. “Mae’r staff a’r myfyrwyr o’r tîm Garddwriaeth a Thirlunio yn edrych ymlaen yn fawr at ofalu am y glasbren arbennig hwn, sy'n cynrychioli cymaint o obaith ac adnewyddu.”
Plannwyd y goeden ifanc gan Nikki Neale, Dirprwy Bennaeth Cwricwlwm, Ansawdd, Dysgu ac Addysgu, ar dir yr Hwb Gwyrdd. Ochr yn ochr â staff a myfyrwyr, roedd cynrychiolwyr o ysgolion lleol, grwpiau cymunedol a sefydliadau y mae’r Hwb Gwyrdd yn gweithio’n agos gyda nhw drwy gydol y flwyddyn.