Rydym wrth ein boddau o ddathlu cyflawniadau arbennig ein myfyrwyr yn Eisteddfod yr Urdd eleni, lle arddangoson nhw eu creadigrwydd a’u talent ar draws amrywiaeth o gystadlaethau.
Yn y rownd ranbarthol, fe wnaeth 80 o fyfyrwyr gystadlu, gyda 37 o fyfyrwyr Celf a Dylunio yn sicrhau lleoedd yn y tri uchaf ac yn symud ymlaen i’r gystadleuaeth genedlaethol.
Fe wnaeth ein myfyrwyr barhau â’u llwyddiant yn y rownd genedlaethol, gan ennill cyntaf, ail a thrydydd yng nghystadleuaeth y Prosiect Gwyddoniaeth.
Daeth y myfyriwr Celfyddydau Perfformio, Rhiannon Aue, yn gyntaf yng nghystadleuaeth Talent i Ddiddanu Plant. Fel rhan o’i gwobr, derbyniodd Rhiannon £300 a bydd hi’n ymuno â Mudiad Meithrin ar eu sioe deithiol, gan roi cyfle anhygoel iddi rannu ei thalentau gyda chynulleidfaoedd ledled Cymru.
Cafodd myfyrwyr Celf a Dylunio lwyddiant ysgubol hefyd, gyda’r canlynol yn dod yn gyntaf yn eu categorïau: Iola Bullock (2D Creadigol), Karl Lieb (Gwaith Celf, 19–25 oed), Mia Powell (Printio), a Mo Kabir (Graffeg Gyfrifiadurol).
Yn ogystal, daeth chwe myfyriwr yn ail, a phedwar myfyriwr yn drydydd yn eu categorïau hwythau.
Rydym yn hynod falch o’n holl fyfyrwyr a gynrychiolodd y Coleg mor wych. Llongyfarchiadau i bawb dan sylw ar flwyddyn ragorol yn Eisteddfod yr Urdd.