Mae CyberFirst a Choleg Gŵyr Abertawe wedi dod at ei gilydd i gyflwyno digwyddiad gyrfaoedd ysbrydoledig, llawn gweithgareddau gyda’r nod o annog mwy o fenywod ifanc i ystyried gyrfaoedd STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg).
Fe wnaeth y digwyddiad arbennig groesawu disgyblion Blwyddyn 10 o Ysgol Tre-gŵyr, Ysgol Gymunedol Cefn Hengoed, Pen-yr-heol, Ysgol y Strade, Ysgol Gymunedol Dylan Thomas, Ysgol Cwmtawe, Ysgol Greenhill ac Ysgol Gyfun Gŵyr, gan ddarparu cyfle unigryw i brofi amrywiaeth eang o bynciau a llwybrau gyrfa cysylltiedig â STEM trwy weithgareddau diddorol ac ymarferol.
Drwy gydol y dydd, fe wnaeth disgyblion gymryd rhan mewn rhaglen lawn o weithdai rhyngweithiol a sesiynau ymarferol dan arweiniad staff y Coleg, gweithwyr proffesiynol o fyd diwydiant a phartneriaid addysg uwch. Mae gweithgareddau’n cynnwys e-Chwaraeon, Peirianneg, Peirianneg Drydanol a SciMaths, ochr yn ochr â chyfleoedd i archwilio llwybrau dilyniant i addysg uwch a gyrfaoedd diwydiant.
Roedd y diwrnod yn cynnwys sesiynau fel: e-Chwaraeon; Gweithdai ymarferol peirianneg; Peirianneg drydanol; Heriau meddwl creadigol SciMaths; Addysg uwch a sesiynau sy’n canolbwyntio ar yrfaoedd gan SoMe App, Admiral, Kocho a Companies House; Trafodaethau rhyngweithiol am gyfleoedd astudio a chyflogaeth yn y dyfodol.
Trwy ddarparu profiadau go iawn ac ymgysylltu’n uniongyrchol â phartneriaid diwydiant ac addysg, nod y digwyddiad yw herio canfyddiadau, magu hyder a dangos yr ystod gyffrous o gyfleoedd sydd ar gael mewn gyrfaoedd cysylltiedig â STEM.
Wrth siarad am y fenter, dywedodd Paul Kift, Pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe:
"Rydyn ni’n falch dros ben o weithio gyda CyberFirst i roi cyfle i fenywod ifanc archwilio pynciau STEM mewn ffordd ddiddorol ac ymarferol. Drwy ddod ag addysg a diwydiant ynghyd, gallwn ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol i ddilyn gyrfaoedd mewn meysydd lle mae cynrychiolaeth gan fenywod yn parhau i fod yn sialens. Mae brwdfrydedd a chyfranogiad y disgyblion drwy gydol y dydd yn cynrychioli popeth roedden ni’n gobeithio amdano. Mae angen talent mwy amrywiol i sicrhau dyfodol STEM – mae heddiw wedi dangos bod y talent hwnnw yma yn barod, ond yn aros i gael ei ddatgloi."
Mae Jo Ralph o CyberFirst wrth ei bodd o weithio gyda’r Coleg ar y digwyddiad hwn. Dywedodd:
"Fel Coleg Aur CyberFirst, mae Coleg Gŵyr Abertawe bob amser wedi cefnogi cyfleoedd cyfoethogi i bobl ifanc ledled de Cymru. Gyda dyfodiad TechFirst ar ein gwarthaf, mae'n hanfodol bwysig ein bod yn cynyddu ein cyrhaeddiad i gynnwys meysydd eraill o STEM. Mae’r merched wedi cael diwrnod llawn gweithgareddau ac maen nhw’n gadael gyda mwy na syniad o’r hyn maen nhw’n mynd i’w wneud fel gyrfa yn y dyfodol. Mae nhw wedi ehangu eu gorwelion a
dysgu am gyfleoedd gyrfa yng Nghymru ac, yn bwysicach, am feysydd astudio posibl nad ydyn nhw wedi’u hystyried."