Yn nes ymlaen y mis hwn, bydd pobl o bedwar ban byd yn mynd i Shanghai am yr 48ain Gystadleuaeth WorldSkills.
Y digwyddiad mawreddog, sy’n cael ei gynnal ar 22-27 Medi, yw’r gystadleuaeth sgiliau ryngwladol fwyaf yn y byd, gan ddod â phobl ifanc, diwydiant, addysg ac arweinwyr llywodraeth o bob cwr o’r byd at ei gilydd i ddatblygu addysg a hyfforddiant technegol a galwedigaethol.
Yn cynrychioli Coleg Gŵyr Abertawe fydd Steve Williams, Arweinydd Cwricwlwm Electroneg a Pheirianneg, sydd – ochr yn ochr â’i swydd arferol – wedi cael ei benodi yn un o Reolwyr y Gystadleuaeth Sgiliau ar gyfer y digwyddiad yn ddiweddar.
Mae Steve wedi chwarae rôl bwysig iawn wrth sicrhau enw ardderchog y Coleg am hyfforddiant galwedigaethol am dros 40 mlynedd, gan lywio myfyrwyr dirifedi i lwyddiant mewn cystadlaethau sgiliau ar y llwyfan rhanbarthol a chenedlaethol, a chyfuno ei rôl fel arweinydd cwricwlwm â’i ymroddiad fel hyfforddwr WorldSkills.
Yn ystod ei yrfa, mae Steve wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobrau lu – ac ennill – gan gynnwys Arwr Di-glod WorldSkills (TES FE) a Chyfraniad Rhagorol at Ddatblygiad Prentisiaethau (Gwobrau Prentisiaethau AAC). Yn ogystal, dyfarnwyd iddo un o ddim ond saith Cymrodoriaeth Addysgu Technegol hynod gystadleuol ar gyfer 2025/26 gan y Sefydliad Addysg a Hyfforddiant (ETF) a’r Comisiwn Brenhinol ar gyfer Arddangosfa 1851.
Bellach, mae Steve yn edrych ymlaen i gyhwfan y faner dros sgiliau’r DU a Choleg Gŵyr Abertawe pan fydd yn cychwyn ar daith i Tsieina ar 14 Medi.
“Hoffwn ddiolch i Goleg Gŵyr Abertawe am fy nghynorthwyo i gymryd swydd Rheolwr Cystadleuaeth Sgiliau Electroneg yn Shanghai,” meddai. “Dwi’n falch dros ben o gael cyfle i ymwneud â digwyddiad mor wych. Er fy mod i wedi chwarae sawl rôl debyg yng nghystadlaethau’r DU, dyma’r tro cyntaf y bydda i’n ymwneud ag un ar lefel ryngwladol ac felly bydd yn gyfle penigamp i gydgysylltu â diwydiant i greu prosiectau arbrofol, arwain tîm rheoli sgiliau, gweithio ochr yn ochr ag arbenigwyr o bob rhan o’r byd a helpu i siapio’r genhedlaeth nesaf o dalent alwedigaethol.”