Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi ymuno â Microsoft a darparwyr addysg partner Coleg Gwent, Coleg Sir Benfro a Phrifysgol Wrecsam i ffurfio Canolfan Genedlaethol Sgiliau Digidol (CGSD).
Cafodd CGSD ei lansio’n ddiweddar yn Ysgol Fusnes Plas Sgeti, a bydd yn darparu rhwydwaith proffesiynol strwythuredig sy’n cysylltu addysg a diwydiant.
“Mae’r galw am sgiliau digidol yn cynyddu’n gyflym ledled Cymru, gydag anghenion yn amrywio o alluoedd hanfodol yn y gweithle i arbenigedd technegol uwch,” eglurodd Pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe, Paul Kift.
“Mae angen llwybrau cliriach ar gyflogwyr at ddarpariaeth o ansawdd ac mae angen llwybrau gweladwy ar unigolion at yrfaoedd digidol llewyrchus, neu gymorth i wella eu sgiliau presennol. Bydd dull cenedlaethol cydweithredol yn helpu i leihau darnio, alinio gweithgareddau â thystiolaeth a gwneud cryfderau presennol yn haws i’w cyrchu.
“Gyda’n gilydd, gallwn chwarae rôl hollbwysig wrth fynd i’r afael â rhai o’r problemau presennol trwy alinio darpariaeth gydag anghenion cenedlaethol a rhanbarthol, a darparu model cadarn o ddylunio hyfforddiant – gan sicrhau cysondeb ar draws Cymru.”
Ymhlith y meysydd blaenoriaeth cychwynnol ar gyfer hyfforddiant a datblygiad mae cwmwl, seiber, data, deallusrwydd artiffisial a chynhyrchedd busnes.
“Bydd Canolfan Genedlaethol Sgiliau Digidol yn gweithredu fel consortiwm o ddarparwyr dysgu ac arweinwyr diwydiant sy’n cydweithredu i ddarparu hyfforddiant wedi’i dargedu sy’n mynd i’r afael â’r bylchau sgiliau digidol presennol ac yn cefnogi twf economaidd Cymru,” ychwanegodd Peter Scott, Arweinydd Sgiliau Digidol ac Arloesi y Coleg.
“Bydd y cydweithrediad hwn gyda Microsoft, partneriaid diwydiant a darparwyr dysgu allweddol eraill yn helpu i gyflawni model Cymru-gyfan ar gyfer datblygu sgiliau digidol.”
Y siaradwyr gwadd yn y digwyddiad lansio oedd Tegan Aspden a Toby Harris – Pennaeth Pobl Diwylliant ac Arweinydd Dysgu a Datblygu – o Stable, cwmni ymgynghori digidol yng Nghaerdydd.
“Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Stable wedi gweithio gyda Choleg Gŵyr Abertawe a CGSD i wneud dysgu ardystiedig Microsoft yn fwy hygyrch ar hyd a lled Cymru mewn meysydd fel deallusrwydd artiffisial, seiberddiogelwch, cwmwl a sgiliau data,” meddai Toby.
“Mae dod â chyflogwyr, dysgwyr ac addysgwyr ynghyd i ddeall pa sgiliau sydd eu hangen heddiw a pha sgiliau fydd eu hangen yfory yn gyffrous iawn ac rydyn ni wrth ein bodd o fod yn rhan o’r dull cydweithredol, hirdymor hwn o ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar Gymru er mwyn ffynnu mewn byd cynyddol ddigidol.”
Yn ddiweddar, mae’r bartneriaeth wedi elwa ar Gyllid Datblygu Strategol gan Medr, sy’n tanlinellu pwysigrwydd strategol cydweithredu a phartneriaethau traws-sectorol o ran sgiliau digidol. Mae’r cyllid wedi cael ei ddefnyddio i sefydlu galluoedd ymhlith partneriaid ac i gyfoethogi profiadau dysgu sy’n cyd-fynd ag anghenion byd diwydiant.