Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch o gyhoeddi Dominic Stead yn Gyfarwyddwr Ystadau newydd, yn dilyn cyfnod llwyddiannus o weithio yn y rôl ar gontract cyfnod penodol.
Dan arweiniad Prif Swyddog Gweithredol y Coleg, bydd Dominic yn gyfrifol am weithredu prosiectau cyfalaf y Coleg, gan gefnogi datblygiad parhaus a rheoli ein campysau yn effeithiol.
Mae ganddo 30 mlynedd o brofiad yn y sector tai yn ogystal â phrofiad o reoli eiddo, cynllunio strategol a gweithrediadau ystadau ac mae Dominic wedi gweithio yn y sectorau preifat a chyhoeddus.
Dechreuodd ei yrfa fel syrfëwr siartredig yn arbenigo mewn rheoli eiddo, cyn symud ymlaen i dreulio 18 mlynedd gyda CB|RE Ltd yn Asia, lle gweithiodd fel ymgynghorydd ar ystod eang iawn o faterion. Ar ôl hyn, sicrhaodd rôl yn sector cyhoeddus gyda Chyngor Bwrdeistref Cheltenham, cyn symud ymlaen i rôl Pennaeth Tai i gwmni Rothschild Foundation, lle bu’n gyfrifol am ystadau Swydd Buckingham a Llundain.
Wrth sôn am y penodiad newydd, dywedodd, Kelly Fountain, Prif Swyddog Gweithredol Coleg Gŵyr Abertawe:
“Braf yw croesawu Dominic i’r rôl Pennaeth Ystadau. Mae ei brofiad eang, ei graffter strategol a’i ddealltwriaeth o’n hystadau yn rhywbeth gwerthfawr iawn wrth i ni ddatblygu ein hystadau a sicrhau ei fod yn cyd-fynd ag anghenion ein myfyrwyr, staff a chymuned ehangach y coleg.
“Mae Dominic eisoes wedi gwneud cyfraniad positif yn ystod ei amser gyda ni fel aelod o staff interim, ac edrychwn ymlaen at weld ei arbenigedd a’i sgiliau arwain yn dod i’r amlwg wrth iddo fabwysiadu dyletswyddau pwysig y rôl hon.
"Mae ein rhaglen ystadau wedi bod yn brysur iawn dros yr haf, ar ôl cwblhau ein gwaith ailddatblygu gwerth £40 miliwn ar gampws Gorseinon. Nesaf, rydym yn bwriadu trawsnewid safle Garngoch, a fydd yn gartref newydd i’n darpariaeth amgylchedd adeiledig a thechnoleg ynni adnewyddadwy. Mae hwn yn gam cyffrous yn natblygiad ein hystâd, un a fydd yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i ddarparu cyfleusterau o ansawdd uchel a chyfleoedd dysgu sy'n berthnasol i'r diwydiant i'n myfyrwyr."
Wrth siarad am ei benodiad, dywedodd Dominic:
“Rwy’n falch iawn o ymuno â Choleg Gŵyr Abertawe ar gontract parhaol. Rydw i eisoes wedi cael cyfle i weithio gyda chydweithwyr ar draws y Coleg ac rydw i’n gyffrous i barhau i gefnogi datblygiad ein hystadau a chyfrannu at uchelgeisiau strategol ehangach y Coleg.
"Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn chwarae rhan bwysig yn y cymunedau y mae'n eu gwasanaethu, ac rwy’n edrych ymlaen at helpu i sicrhau bod ein cyfleusterau a'n portffolio eiddo yn parhau i gefnogi profiad rhagorol i fyfyrwyr, staff a chymuned ehangach y Coleg."