Skip to main content
College staff and students with the Torch Relay

Coleg Gŵyr Abertawe yn croesawu Taith Gyfnewid Fflam Sgiliau Tîm Cymru

Yn ddiweddar, fe wnaeth Coleg Gŵyr Abertawe groesawu Taith Gyfnewid Fflam Tîm Cymru i Gampws Tycoch, gan ymuno â sefydliadau ledled Cymru i gydnabod cyflawniadau, uchelgais ac ymroddiad y dysgwyr, y prentisiaid a’r bobl ifanc sy’n cynrychioli Tîm Cymru.

Mae Taith Gyfnewid y Fflam yn teithio ar hyd a lled y genedl cyn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK eleni, a gynhelir yng Nghymru rhwng 16 a 20 Tachwedd. Mae’r daith gyfnewid yn taflu goleuni ar y bobl, y partneriaethau a’r cyfleoedd sy’n helpu i ddatblygu sgiliau o’r radd flaenaf, tra’n ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol i ystyried addysg alwedigaethol, prentisiaethau a chystadlaethau sgiliau.

Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, y fflam oedd y prif ffocws yn ystod seremoni arbennig a oedd yn cynnwys disgyblion o ysgolion cynradd lleol Cadle, y Gors a Sgeti. Daeth hi â dysgwyr, prentisiaid, cyflogwyr, tiwtoriaid, staff a phartneriaid cymunedol at ei gilydd i arddangos sgiliau, dathlu llwyddiant ac ysbrydoli cystadleuwyr y dyfodol.

Roedd y disgyblion yn gallu mwynhau amrywiaeth o weithgareddau o bob maes yng nghwricwlwm y Coleg gan gynnwys harddwch, busnes, gofal plant, cyfrifiadura, adeiladu, celfyddydau creadigol, cyfryngau creadigol, peirianneg electronig, e-chwaraeon, ffasiwn, gwyddor fforensig, lletygarwch, tirlunio, cerddoriaeth, plymwaith, colur theatrig, teithio a thwristiaeth, y celfyddydau gweledol a’r Gymraeg.

Roedd y digwyddiad hefyd yn cydnabod llwyddiannau enillwyr medalau ddoe a heddiw, a gofynnwyd i Kaya Quinn (Arian - Electroneg Diwydiannol) ac Eva Robins (Arian - Sgiliau Sylfaen: Gwasanaethau Bwyty) gario’r fflam ar ran y Coleg.

Eleni, mae pum dysgwr o’r Coleg – Kaya, Rhys Freeman, Kobi Williams, Marley Blakemore a Steve Sebastian – wedi cael eu dewis i gystadlu yn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK, gan arddangos cryfder talent leol a thynnu sylw at y cyfleoedd sydd ar gael drwy gystadlaethau sgiliau, prentisiaethau a dysgu galwedigaethol.

Dan arweiniad Llywodraeth Cymru a’r prosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru, mae Taith Gyfnewid y Fflam yn helpu i ddod â stori WorldSkills i gymunedau ledled Cymru, gan dynnu sylw at yr effaith gadarnhaol y mae cystadlaethau sgiliau yn ei chael ar hyder, dilyniant gyrfa a chyfleoedd yn y dyfodol.

Bydd Taith Gyfnewid y Fflam yn ymweld â cholegau, darparwyr hyfforddiant a sefydliadau partner ledled Cymru, gan ddathlu straeon llwyddiant lleol wrth adeiladu cyffro cyn y Rowndiau Terfynol Cenedlaethol ym mis Tachwedd.

Dywedodd Pennaeth y Coleg, Paul Kift:

“Roedd yn wych croesawu pawb i Dycoch i weld y Fflam wrth iddi basio trwy Goleg Gŵyr Abertawe ar ei thaith ar hyd a lled Cymru. 

“Rydyn ni’n gobeithio bod disgyblion yr ysgolion wedi cael eu hysbrydoli gan yr amrywiaeth o weithgareddau a gynigir a’u bod wedi gadael gydag ymdeimlad o gyffro am yr holl lwybrau gyrfa posibl sydd ar gael iddynt. Efallai y bydd yna enillwyr medalau y dyfodol yn eu plith!

“Rydyn ni mor falch o’n holl fyfyrwyr sydd wedi cymryd rhan mewn cystadlaethau sgiliau dros y blynyddoedd, mae gennym hanes gwych o ran cipio medalau aur, arian ac efydd. 

“Roedd yn anrhydedd i ni groesawu Taith Gyfnewid y Fflam i Goleg Gŵyr Abertawe eto. Rydyn ni nawr yn edrych ymlaen at Rowndiau Terfynol Cenedlaethol y DU a hoffem ddymuno pob lwc i’n holl gystadleuwyr ar gyfer y digwyddiad.”

Diolch yn fawr i’r sefydliadau a’r cyflogwyr a gefnogodd y digwyddiad, gan gynnwys Andrew Scott, Simon Thomas a Spot the (Robot) Dog o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Renishaw a Chyngor Abertawe.