Skip to main content

Busnes gyda Sefydliad Bancio a Chyllid Llundain Lefel 3 - Diploma Available in Welsh

Amser-llawn
Lefel 3
BTEC Diploma
Tycoch
Dwy flynedd
Trwy gyfrwng y Gymraeg
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Bydd y cwrs dwy flynedd hwn yn cynnig cyfle i fyfyrwyr astudio nifer o swyddogaethau busnes gan gynnwys dadansoddi ariannol, marchnata digidol, marchnadoedd ariannol, arian a bancio, busnes rhyngwladol, rheoli digwyddiadau, rheoli adnoddau dynol, a marchnata. 

Mae’r cwrs hwn yn cynnwys cymhwyster proffesiynol Sefydliad Bancio a Chyllid Llundain (LIBF) sy’n rhoi cyflwyniad ardderchog i faes gwasanaethau a chyngor ariannol.  

Mae’r cymhwyster hwn yn gyfwerth ag astudio pedwar cwrs Safon Uwch.  

Amcanion y Cwrs: 

  • Deall egwyddorion Bancio a Chyllid yn genedlaethol ac yn rhyngwladol  
  • Datblygu ymgyrch marchnata digidol llawn  
  • Cynhyrchu cynllun busnes a phresenoldeb ar-lein  
  • Nodi sut i reoli pobl, prosiectau ac adnoddau 
  • Cynllunio digwyddiadau gan ddefnyddio strategaethau marchnata digidol a thraddodiadol.  

Canlyniadau’r Cwrs: 

  • Bydd myfyrwyr yn gallu egluro sut mae bancio busnes yn datblygu trwy amhariad digidol  
  • Defnyddio strategaethau marchnata digidol i ddiwallu amcanion marchnata  
  • Bydd myfyrwyr yn ennill y rhinweddau i redeg eu busnes eu hunain  
  • Bydd myfyrwyr yn gallu argymell atebion busnes i broblemau rheolwyr a gweithwyr 
  • Bydd myfyrwyr yn gallu cynllunio, costio a chymryd rhan mewn digwyddiad busnes. 

Gwybodaeth allweddol

  • O leiaf bum gradd A*-C ar lefel TGAU, gan gynnwys Mathemateg a Saesneg Iaith 
  • Neu broffil Teilyngdod mewn BTEC Busnes Lefel 2 a TGAU Saesneg Iaith.

  • Unedau a asesir yn fewnol 
  • Unedau asesu dan reolaeth a asesir yn allanol 
  • Uned arholiad a asesir yn allanol.

Asesu: 

  • Arholiadau ysgrifenedig ac amlddewis 
  • Aseiniadau rhaglennu. 

Meini Prawf Graddio: 

  • Asesu mewnol (58%) 
  • Asesu allanol (42%). 

Asesir unedau gan ddefnyddio graddfa Rhagoriaeth (D), Teilyngdod (M), Pasio (P). Mae cymwysterau’n cael eu graddio gan ddefnyddio graddfa PP i D*D*.  Mae cymhwyster proffesiynol Sefydliad Bancio a Chyllid Llundain yn cael ei raddio A-E. 

Gallech chi aros yng Ngholeg Gŵyr Abertawe i ddilyn cwrs Addysg Uwch cysylltiedig â rheoli busnes neu gyfrifeg. Bydd cwblhau’r cwrs BTEC Busnes gyda Sefydliad Bancio a Chyllid Llundain yn llwyddiannus yn rhoi pwyntiau UCAS i ddysgwyr ac mae’n cael ei gydnabod gan brifysgolion ar gyfer cyrsiau gradd anrhydedd llawn. 

Cyflogaeth: Bydd y cwrs yn gwella rhagolygon myfyrwyr o gael mynediad i’r sector ariannol, marchnata digidol a rheoli busnes.