Skip to main content

Gweinyddu Busnes Lefel 2 - Prentisiaeth

Prentisiaeth, GCS Training
Lefel 2
C&G
Llys Jiwbilî
15 mis
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Arolwg

Mae’r prentisiaethau hyn wedi’u hariannu’n llawn ac maent ar gyfer dysgwyr sydd newydd sicrhau rolau gweinyddu. Gellir defnyddio’r Prentisiaethau hyn i recriwtio a hyfforddi staff newydd o fewn eich sefydliad. Mae rolau addas yn cynnwys gweinyddwyr cymorth busnes, staff swyddfa iau, goruchwylwyr swyddfa, cynorthwywyr personol, ysgrifendyddion neu dderbynyddion o amrywiaeth o sectorau.

Gwybodaeth allweddol

I fod yn gymwys i gael cyllid prentisiaeth, rhaid i chi gyflogi’r prentis am fwy na 16 awr yr wythnos a’ch bod wedi’ch lleoli yng Nghymru.

Bydd gan bob dysgwr diwtor/asesydd dynodedig a fydd yn gweithio’n agos gyda’r dysgwr a’r cyflogwr i sicrhau bod yr unedau a ddewiswyd yn cyd-fynd â rolau’r unigolyn a blaenoriaethau’r sefydliad. Bydd y tiwtor/asesydd yn cyfarfod â’r dysgwr bob 4/6 wythnos i asesu ei gynnydd a gosod nodau ar gyfer y cyfnod nesaf.

Bydd dysgwyr yn gorfod ymgymryd â gwaith prosiect ar gyfer yr unedau a ddewiswyd, yn ogystal â chasglu tystiolaeth o’u rolau er mwyn dangos eu bod yn gallu rhoi eu sgiliau newydd ar waith. Efallai bydd angen i ddysgwyr fynychu seminarau, gweithdai a chwblhau gwaith dysgu seiliedig ar waith, a fydd yn canolbwyntio ar elfen ‘wybodaeth’ y cymhwyster. Bydd hyn yn helpu i ddatblygu dealltwriaeth, sgiliau a phrofiad yn y maes hwn.

Unedau gorfodol

  • Cyfathrebu mewn amgylchedd busnes
  • Deall sefydliadau cyflogwyr
  • Rheoli perfformiad a datblygiad personol
  • Datblygu cysylltiadau gwaith â chydweithwyr 
  • Egwyddorion cynhyrchu dogfennau busnes a rheoli gwybodaeth

Unedau dewisol

  • Cynhyrchu dogfennau busnes
  • Cynhyrchu cofnodion cyfarfodydd
  • Gweinyddu cofnodion adnoddau dynol 
  • Defnyddio e-bost
  • Datblygu cyflwyniad
  • Rhoi cyflwyniad
  • Darparu cymorth gweinyddol ar gyfer cyfarfodydd
  • Cyfrannu at y gwaith o drefnu digwyddiad 

Gweinyddu busnes Lefel 3 - Prentisiaeth

Gweinyddu busnes Lefel 4 - Prentisiaeth

 

I gwblhau’r cymhwyster hwn yn llwyddiannus, bydd gofyn i ddysgwyr ymgymryd ag aseiniadau a phrosiectau ysgrifenedig sy’n berthnasol i’w rolau a’u hamgylchedd dysgu. Byddant yn ennill gwybodaeth, offer a thechnegau sy’n ymwneud â’u hunedau, er mwyn eu rhoi ar waith yn eu hamgylchedd gwaith presennol, fel y gallant greu portffolio o dystiolaeth.

Bydd y prosiect, y gwaith a’r dystiolaeth a gesglir yn cael eu hadolygu yn ystod cyfarfodydd grŵp a chyfarfodydd un-i-un rheolaidd gyda thiwtoriaid/aseswyr, at ddibenion asesu. Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn defnyddio Smart Asessor, sef meddalwedd rheoli prentisiaethau ar-lein sy’n caniatáu’r darparwr, y dysgwr a’r cyflogwr i weithio’n effeithiol i olrhain cynnydd dysgwyr yn effeithiol.