Skip to main content

Safon Uwch Gwareiddiad Clasurol

Amser-llawn
Lefel 3
A Level
Gorseinon
Dwy flynedd
Ffôn: 01792 890700 (Gorseinon)

Arolwg

Dros ddwy flynedd y cwrs, byddwch yn mynd ar drywydd storïau a mytholeg gyfareddol Arwyr Groegaidd, Duwiau a Duwiesau trwy astudio’r Iliad a’r Aeneid, rhai o’r storïau hynaf a gofnodwyd yng ngwareiddiad Ewrop, am Ryfel Troea a’i ganlyniad. Byddwch hefyd yn archwilio gweithiau enwog o fyd drama trasig a chomig Gwlad Groeg, megis stori enigmatig Oedipus, a byddwch yn edrych ar arferion a chredoau crefyddol cyfareddol y Groegiaid, ynghyd â chelf a phensaernïaeth gysylltiedig yr hen fyd.  

Trwy astudio Gwareiddiad Clasurol, byddwch yn ennill dealltwriaeth ddofn o’r sylfeini diwylliannol a hanesyddol sy’n parhau i lywio’r byd sydd ohoni, yn ogystal â datblygu sgiliau meddwl beirniadol a dadansoddi.  
 

Gwybodaeth allweddol

  • O leiaf saith gradd A*-C ar lefel TGAU 
  • Gan gynnwys Gradd B mewn Saesneg  

Mae ein cwrs yn cynnig profiad dysgu hygyrch a rhyngweithiol. Trwy amrywiaeth o ddulliau addysgu, gan gynnwys darlithoedd llawn gwybodaeth, trafodaethau diddorol, ac adnoddau amlgyfrwng, byddwch yn ymdrwytho yn nhapestri cyfoethog hy byd Clasurol. Caiff ffynonellau gwreiddiol a darganfyddiadau archaeolegol eu harchwilio, gan roi cyfle i chi ddatblygu sgiliau dehongli a dadansoddi beirniadol. Cewch gyfle hefyd i gymryd rhan mewn ymweliadau addysgol, gan gynnwys taith bosibl i Rufain. 

Asesir y cwrs drwy dri arholiad seiliedig ar draethodau ar ddiwedd blwyddyn 2, heb unrhyw elfen o waith cwrs. Nid oes arholiadau ar ddiwedd blwyddyn 1, bydd angen i ddysgwyr ymrwymo i’r ddwy flynedd lawn er mwyn ennill y cymhwyster Safon Uwch.

Mae astudio Gwareiddiad Clasurol yn meithrin y sgiliau trosglwyddadwy personol o ddatrys problemau, dadansoddi, dadlau disgybledig a chyflwyniad darbwyllol y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi’n fawr. Mae astudio’r pwnc yn dangos eich bod yn ddeallus, yn ymrwymedig ac â’r gallu i feddwl yn greadigol. Bydd tiwtoriaid derbyn prifysgolion a chyflogwyr yn chwilio am yr holl sgiliau hyn. 

Mae myfyrwyr yn cael gyrfaoedd llwyddiannus ym mhrif ffrwd masnach, y gyfraith, cyllid a gweinyddiaeth gyhoeddus, yn ogystal â meysydd mwy galwedigaethol megis addysgu, archifau a gwaith amgueddfa, cadwraeth ac ati.