Skip to main content

Rhaglen Peirianneg Estynedig (cwrs Cyn-brentisiaeth) Lefel 3 - Diploma

Amser-llawn
Lefel 3
EAL
Tycoch
Un flwyddyn
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Mae’r rhaglen hybrid hon yn para blwyddyn ac yn cynnwys cwrs academaidd Lefel 3, cwrs ymarferol NVQ Lefel 2 a’r sgiliau hanfodol i’ch paratoi ar gyfer prentisiaeth.

Mae prentisiaethau yn cynnig cyfle euraidd i chi astudio tra byddwch yn y gweithle, sy’n golygu eich bod yn cael eich talu i barhau â’ch addysg, a chael profiad gwaith amhrisiadwy ar yr un pryd.

 

Gwybodaeth allweddol

  • Pum gradd C neu uwch ar lefel TGAU gan gynnwys Mathemateg haen ganolradd/uwch a phwnc Gwyddoniaeth. 

Bydd myfyrwyr yn astudio amrywiaeth eang o unedau sy’n rhoi modd i ddysgwyr ganolbwyntio ar yr yrfa o’u dewis neu faes diddordeb a symud ymlaen i gyflogaeth neu addysg uwch.

Mae meysydd astudio allweddol yn cynnwys:

  • Mathemateg peirianneg 
  • Egwyddorion mecanyddol e.e. ffiseg 
  • Gwyddor defnyddiau 
  • Hydroleg/niwmateg 
  • CAD/CNC  
  • Peirianneg amgylcheddol 
  • Weldio/ffabrigo a pheiriannu. 

Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe gallech ddewis y cwrs HND mewn Peirianneg Drydanol neu Beirianneg Fecanyddol.

Mae’r cwrs hwn yn llwybr carlam i ail flwyddyn y rhaglen prentisiaeth neu mae’n dderbyniol ar gyfer mynediad i’r Diploma Cenedlaethol Uwch.

Bydd gofyn i chi ddefnyddio cyfarpar diogelu personol yn y sesiynau ymarferol a bydd angen prynu hyn cyn dechrau’r cwrs. 

Bydd angen arnoch oferôls gwrthfflam, esgidiau blaen dur, helm weldio a menig dur.