Trosolwg o’r Cwrs
Hyd: Dwy flynedd
Mae’r cwrs hwn yn addas i’r rhai sydd â diddordeb mewn gyrfa mewn peirianneg drydanol/electronig, gyda chyfrifoldeb am ddylunio, gosod, comisiynu a gweithredu gwasanaethau peirianneg.
Diweddarwyd Ionawr 2021
Gofynion Mynediad
Un o’r canlynol:
- Mynediad i’r Diploma AU - Pas
- Safon Uwch - DD/EEE
- BTEC Diploma Lefel 3 - PPP
A gradd C mewn Mathemateg a phwnc Gwyddoniaeth ar lefel TGAU.
Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn croesawu ceisiadau ar sail dysgu blaenorol. Mae rhagor o fanylion i’w gweld ar eu gwefan.
Dull Addysgu’r Cwrs
Modiwlau’r flwyddyn gyntaf yw:
Lefel 5
- damcaniaethau egwyddorion trydanol
- pŵer trydanol
- PLCs a rheolaeth
Modiwlau’r ail flwyddyn yw:
Lefel 5
- rheoli, arloesi a chynaliadwyedd
- prosiect grŵp
- cyfathrebu a phrosesu signalau digidol
Cyfleoedd Dilyniant
Mae’r cymhwyster yn agor cyfleoedd gyrfa mewn ymgynghori, contractio a gweithgynhyrchu yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat. Bydd myfyrwyr hefyd yn gallu symud ymlaen i’r cwrs BEng ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Gwybodaeth Ychwanegol
Cod cwrs UCAS: 2H99
Ffioedd dysgu’r cwrs hwn yw £9000. Mae’r Coleg yn cynnig bwrsari gwerth £1000 tuag at hyn ar gyfer cyrsiau amser llawn sy’n dechrau ym mis Medi 2020.)
I gael gwybodaeth am gymorth ariannol, gan gynnwys benthyciadau ffioedd dysgu a grantiau ffioedd, ewch i www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk
Mae’n bosibl y bydd costau ychwanegol cysylltiedig â’r cwrs hwn h.y.:
- teithio i’r Coleg, neu’r lleoliad, ac yn ôl
- costau llungopïo, deunydd swyddfa ac offer (e.e. ffyn USB)
- argraffu a rhwymo
- gynau ar gyfer seremonïau graddio
*Sylwch fod y ffioedd dysgu a nodwyd ar gyfer blwyddyn academaidd 2020-21 a gallent gynyddu ar gyfer blynyddoedd astudio yn y dyfodol. Ewch i wefan y brifysgol i gael rhagor o wybodaeth.