Trosolwg o’r Cwrs
Hyd: Dwy flynedd
Mae’r cwrs hwn yn addas i’r rhai sydd â diddordeb mewn gyrfa mewn peirianneg fecanyddol, gyda chyfrifoldeb am ddylunio, gosod, comisiynu a gweithredu gwasanaethau peirianneg.
Diweddarwyd Rhagfyr 2022
Gofynion Mynediad
Cynnig nodweddiadol:
Safon Uwch = DD
BTEC Diploma Lefel 3 = MP
BTEC Diploma Estynedig Lefel 3 = PPP
Mynediad = Pas
Yn ogystal, byddai disgwyl i fyfyrwyr feddu ar radd C mewn Mathemateg a phwnc Gwyddoniaeth ar lefel TGAU. Bydd rhaid i bob myfyriwr gael cyfweliad.
Dull Addysgu’r Cwrs
Addysgir y cwrs dros ddwy flynedd academaidd.
Modiwlau’r flwyddyn gyntaf yw:
Lefel 4
- mathemateg
- cymwysiadau peirianneg a sgiliau astudio
- defnyddiau a chyflwyniad i dechnoleg gweithgynhyrchu
- gwyddor peirianneg 1
- gwyddor peirianneg 2
- dylunio ym maes peirianneg
Modiwlau’r ail flwyddyn yw:
Lefel 5
- prosiect grŵp
- canfod namau a monitro cyflwr
- egwyddorion mecanyddol peirianneg
- rheoli, arloesi a chynaliadwyedd
- gweithgynhyrchu, dylunio a thechnoleg
- mecaneg thermohylif
Cyfleoedd Dilyniant
Mae’r cymhwyster yn agor cyfleoedd gyrfa mewn ymgynghori, contractio a gweithgynhyrchu yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat. Bydd myfyrwyr hefyd yn gallu symud ymlaen i’r cwrs BEng ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Gwybodaeth Ychwanegol
Sut i wneud cais
Bydd angen i chi wneud cais drwy UCAS (cod UCAS yw 82NG)
Cliciwch yma i wneud cais
Achrediad Dysgu Blaenorol
Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn croesawu ceisiadau ar sail dysgu blaenorol. Mae rhagor o fanylion i’w gweld yn y Swyddfa Academaidd | PCDDS
Cod UCAS y cwrs yw 8N2G.
Y ffioedd dysgu yw £9,000 y flwyddyn. Bydd angen i fyfyrwyr gael benthyciad ffioedd dysgu ar gyfer y swm llawn. Mae’r Coleg yn cynnig bwrsari gwerth £1,000 y flwyddyn tuag at gyrsiau AU amser llawn (mae hyn yn dibynnu ar ddilyniant boddhaol ar y cwrs). I gael gwybodaeth am gymorth ariannol – gan gynnwys benthyciadau ffioedd dysgu – ewch i www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk
Mae’n bosibl y bydd costau ychwanegol cysylltiedig â’r cwrs hwn h.y.:
- teithio i’r Coleg, neu’r lleoliad, ac yn ôl
- costau llungopïo, deunydd swyddfa ac offer (e.e. ffyn USB)
- argraffu a rhwymo
- gynau ar gyfer seremonïau graddio
*Sylwch fod y ffioedd dysgu a nodwyd ar gyfer blwyddyn academaidd 2023-24 a gallent gynyddu ar gyfer blynyddoedd astudio yn y dyfodol. Ewch i wefan y brifysgol i gael rhagor o wybodaeth.