Skip to main content

Cyflwyniad i Gynnal a Chadw Systemau Cerbydau Lefel 1 - Diploma

Amser-llawn
Lefel 1
Diploma
Tycoch
Un flwyddyn
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

 Ar y cwrs blwyddyn hwn, byddwch yn astudio egwyddorion sylfaenol systemau mecanyddol a thrydanol a ddefnyddir mewn technoleg cerbydau modur. Bydd yn rhoi cipolwg i chi ar yrfa yn y diwydiant gwasanaethu ac atgyweirio cerbydau modur ac yn eich annog i gyflawni tasgau cynnal a chadw ac atgyweirio.  

Unedau Gorfodol: 

  • Systemau iro injan 
  • Systemau oeri injan 
  • Systemau tanwydd a gwacáu 
  • System tanio gwreichionen 
  • Systemau trydanol 
  • Systemau brecio 
  • Systemau llywio a hongiad 
  • Systemau olwynion a theiars 
  • Systemau trawsyrru 
  • Deunyddiau, ffabrigo, offer a dyfeisiau mesur a ddefnyddir yn yr amgylchedd modurol. 

Astudiaethau Ychwanegol:

  • Sgiliau gwaith mainc a llenfetel 
  • Datblygu sgiliau llythrennedd digidol, llythrennedd, rhifedd a chyflogadwyedd.

Gwybodaeth allweddol

  • Graddau D-E ar lefel TGAU gan gynnwys Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth 
  • Diddordeb brwd yn y pwnc 
  • Mae’n bosibl y bydd angen i chi wneud prawf gallu os nad oes gennych y graddau TGAU gofynnol i sicrhau bod gennych ddealltwriaeth gadarn o lythrennedd a rhifedd.

Addysgir y cwrs trwy arddangosiadau ymarferol wedi’u hategu gan dasgau gwaith realistig, lle mae’r pwyslais ar eich gallu i ddangos y sgiliau gofynnol gan ddefnyddio offer o safon diwydiant. Addysgir gwybodaeth sylfaenol ar gyfer pob uned yn yr ystafell ddosbarth, lle cewch eich annog i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau sy’n canolbwyntio ar y dysgwr. 

Mae’n bosibl y bydd dysgwyr llwyddiannus yn cael cyfle i barhau â’u hastudiaethau a symud ymlaen i’r rhaglen Cynnal a Chadw Cerbydau Lefel 2.  

Mae’r eitemau canlynol yn offer hanfodol er mwyn cwblhau’r cwrs:

  • Cyfarpar diogelu personol sy’n cydymffurfio â safonau diogelwch Prydeinig
  • Deunydd ysgrifennu amrywiol
  • Trwydded pecyn dysgu electronig Electude.

Explore in VR