Peirianneg Fecanyddol Ymarferol (Perfformio Gweithrediadau Peirianneg) Lefel 2
Trosolwg
Mae’r cwrs Lefel 2 hwn yn cynnig sylfaen gref mewn egwyddorion peirianneg a sgiliau ymarferol. Bydd myfyrwyr yn ennill profiad ymarferol ac yn datblygu dealltwriaeth eang o beirianneg fecanyddol, peirianneg drydanol a phrosesau gweithgynhyrchu.
Gallwch astudio’r cwrs hwn yn amser llawn dros un flwyddyn neu drwy brentisiaeth ddwy flynedd. Mae’r llwybr prentisiaeth yn cynnwys EAL Tystysgrif Lefel 2 mewn Technolegau Peirianneg sydd yn Gymhwyster Galwedigaethol a ddarperir fel rhan o’r fframwaith prentisiaethau.
Mae’r cwrs wedi’i gynllunio i ddarparu gwybodaeth a sgiliau ymarferol yn y meysydd canlynol:
- Weldio
- Ffabrigo
- Turnio
- Melino
- Drilio
- Niwmateg
- Lluniadu peirianneg
- Cynllunio gyda chymorth cyfrifiadur
- Profi ac arolygu
- Profion anninistriol.
Mae’n cynnwys amrywiaeth o unedau ymarferol sy’n rhoi cyfle i chi ganfod pa feysydd peirianneg sy’n gweddu orau i chi.
Gwybodaeth allweddol
Pedair gradd D ar lefel TGAU a gradd C mewn Saesneg Iaith neu Fathemateg.
Rhaid i brentisiaid sicrhau cyflogaeth amser llawn mewn sector perthnasol cyn gwneud cais i astudio’r cwrs hwn.
Bydd gofyn i ddysgwyr fynychu cyfweliad.
Mae’r cwrs hwn fwy neu lai yn gyfwerth â phedwar cymhwyster TGAU. Mae iddo amrywiaeth eang o unedau ac felly mae myfyrwyr yn gallu canolbwyntio ar yr yrfa o’u dewis neu faes diddordeb. Mae strwythur y cymhwyster yn ceisio rhoi cyfle i ddysgwyr ddatblygu amrywiaeth o sgiliau a thechnegau, sgiliau personol a rhinweddau.
Rhaglen amser llawn Lefel 3 neu’r llwybr prentisiaeth Peirianneg ac efallai HNC/HND.
Mae’r eitemau canlynol yn hanfodol er mwyn cwblhau’r cwrs:
- Esgidiau diogelwch
- Oferôls gwrthfflam
- Cyfrifiannell wyddonol
- Pennau
- Pensiliau
- Pren mesur
- Rwber
- Pad ysgrifennu (papur llinellog a graff).