Skip to main content

Mynediad i Wyddor Iechyd

Amser-llawn
Lefel 3
AGORED
Tycoch
Un blwyddyn
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Bydd myfyrwyr yn astudio microbioleg, cemeg, gofal iechyd, seicoleg, prosiect ymchwil, anatomeg a ffisioleg yn ogystal ag uned radiograffeg ar gyfer y rhai sydd am symud ymlaen i faes radiograffeg.

Gwybodaeth allweddol

Bydd angen i ymgeiswyr gwblhau cwrs cyn-fynediad neu gwblhau aseiniad mynediad yn llwyddiannus.

Cewch eich asesu drwy gydol y cwrs drwy amrywiaeth o ddulliau asesu a chewch gredydau ar gyfer pob uned a gwblheir yn llwyddiannus. Er bod cyrsiau Mynediad yn cynnwys gwaith caled, mae myfyrwyr yn llwyr fwynhau datblygu eu diddordebau a’u syniadau eu hunain.

Mae’r cwrs yn cefnogi myfyrwyr trwy broses geisiadau UCAS ar gyfer mynediad i sefydliadau Addysg Uwch ledled y DU a Gogledd Iwerddon. Dilyniant i addysg uwch i astudio awdioleg, radiograffeg, gwaith parafeddygol, therapi lleferydd, podiatreg, cardioleg neu wyddorau meddygol. Mae llawer o fyfyrwyr yn cael cyflogaeth yn uniongyrchol o’r rhaglen hon, er enghraifft, gwaith labordy neu rôl cynorthwyydd gofal iechyd mewn ysbytai lleol.

Gallai myfyrwyr fod yn gymwys i gael Grant Dysgu’r Cynulliad (GDC) a chymorth ariannol coleg ar gyfer costau gofal plant a theithio.