Trosolwg o’r Cwrs
Mae Paratoi ar gyfer Dysgu yn gwrs Lefel 2 byr sy’n bwriadu rhoi’r sgiliau sydd eu hangen i gwblhau aseiniadau’n llwyddiannus ar lefel uwch.
Mae’r cwrs wedi cael ei greu i gynorthwyo myfyrwyr i ddatblygu’r sgiliau sy’n hanfodol ar gyfer astudiaethau academaidd llwyddiannus. Mae Dysgu ar gyfer Dilyniant wedi’i strwythuro i roi cyflwyniad cyffredinol i chi i fyd addysg bellach, gan eich galluogi i ddewis llwybrau dilyniant realistig.
Sylwch nad yw cwblhau’r cwrs Paratoi ar gyfer Dysgu byr yn golygu dilyniant awtomatig i’r cwrs blwyddyn Mynediad Lefel 3. Dylai myfyrwyr sicrhau bod eu sgiliau presennol yn ddigonol i allu ymdopi â gofynion cwrs Lefel 2.
Diweddarwyd Medi 2020
Gofynion Mynediad
Gyda gofynion y rhaglen Lefel 2 hon a’r disgwyliadau i symud ymlaen i Lefel 3, mae angen i fyfyrwyr fod yn ddibynadwy ac yn onest, bod ag agwedd gadarnhaol, bod yn ymroddedig, yn frwdfrydig ac yn llawn cymhelliant i astudio.
Dull Addysgu’r Cwrs
Mae’r cwrs yn cynnwys:
- ysgrifennu traethodau
- dadleuon academaidd
- cyflwyniad unigol
- cynllunio gyrfa
- rhifedd.
Cyfleoedd Dilyniant
Efallai y bydd myfyrwyr yn gallu symud ymlaen i raglen Lefel 3 yn y Coleg, yn bennaf raglen Mynediasd i AU.
Bydd myfyrwyr sydd angen rhagor o amser i ddatblygu yn cael cyfle i astudio ar y cwrs Dilyniant Oedolion ar Lefel 2.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae’r cwrs hwn yn para chwe neu ddeg wythnos (ond mae hefyd yn cael ei gynnig fel ‘cwrs carlam’ sy’n cymryd pythefnos).