Skip to main content

Melys moes mwy

Mae myfyrwraig Arlwyo Coleg Gŵyr Abertawe, Charlotte Walker, wedi ennill y wobr Arian yn rownd derfynol coginio Pâtissierie Cystadleuaeth Sgiliau Cymru.

Mae Charlotte yn astudio ar gyfer cymhwyster VRQ Lefel 2 Coginio Proffesiynol ar gampws Tycoch ac roedd hi wedi cystadlu yn erbyn wyth myfyriwr arall ar y diwrnod.

Roedd Charlotte wedi paratoi dewis blasus o ddanteithion melys ar gyfer y digwyddiad gan gynnwys roulade wedi'i addurno a'i lenwi â crème pâtissière, bisgedi sabl almon a phwdin swffle toddi yn y canol mewn dim ond tair awr.

“Roedd y brîff yn heriol dros ben ac yn gofyn i bob ymgeisydd arddangos ei ochr greadigol, cyflymder, cywirdeb a dawn,” dywedodd Mark Clement, Rheolwr Maes Dysgu Lletygarwch. “Rwy'n falch iawn dros Charlotte. Mae hi wedi dangos llawer o ymrwymiad a phenderfyniad yn y cyfnod yn arwain at y diwrnod ac mae ei sgiliau ymarferol wedi datblygu’n fawr dros yr wythnosau diwethaf. Roedd yn bleser gweld Charlotte yn ymroi ei hunan yn llwyr i'r gystadleuaeth hon.”