Skip to main content

CGA yn ennill teitl Coleg Cyfrifeg y Flwyddyn (Sector Cyhoeddus)

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi ennill Coleg Cyfrifeg y Flwyddyn (Sector Cyhoeddus) yn seremoni wobrwyo nodedig PQ Magazine, cyhoeddiad ar gyfer cyfrifwyr rhannol gymwysedig.

"Rydyn ni wrth ein bodd i ennill y teitl ac yn hapus iawn i’w rannu gyda’r tîm Cyfrifeg ym Mhrifysgol De Cymru, Casnewydd – roedd hi’n noson wych i Gymru!" dywedodd yr Arweinydd Cwricwlwm Paul Sizer.

Cafodd y coleg ei enwebu am gyfanswm o bedair gwobr – Coleg Cyfrifeg y Flwyddyn (Sector Cyhoeddus), Arloesi ym Maes Cyfrifeg, Tîm Cyfrifeg y Flwyddyn a PQ y Flwyddyn (i’r fyfyrwraig Kate Reed).

“Y llynedd, gwnaethon ni gyrraedd y rhestr fer mewn un categori, ac felly, gyda’r pedwar enwebiad, rydyn ni’n teimlo ein bod ni’n mynd o nerth i nerth,” ychwanegodd Paul.

Mae gan Goleg Gŵyr Abertawe record arbennig o dda o ran darparu cymwysterau proffesiynol fel cyfrifeg. Mewn gwirionedd, ni yw’r unig goleg addysg bellach yn y DU i ennill statws partner dysgu cymeradwy platinwm, dyfarniad y mae mawr alw amdano, gan Gymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA) o ganlyniad i’n hymrwymiad i hyfforddiant a chymorth i fyfyrwyr.