Skip to main content
Bron 4,500 o fyfyrwyr yn dechrau'r flwyddyn academaidd yng Ngholeg Gŵyr Abertawe

Bron 4,500 o fyfyrwyr yn dechrau'r flwyddyn academaidd yng Ngholeg Gŵyr Abertawe

Mae bron 4,500 o fyfyrwyr amser llawn wedi dechrau’r flwyddyn academaidd newydd yng Ngholeg Gŵyr Abertawe - ar gyrsiau Safon Uwch a galwedigaethol mewn amrywiaeth o feysydd pwnc gan gynnwys cyfrifeg, peirianneg, trin gwallt a phlymwaith.

Maen nhw'n ymuno â'r Coleg ar adeg gyffrous, gyda'r gwaith adnewyddu ar fin gael ei gwblhau a fydd yn gwella cyfleusterau'r myfyrwyr.

Ar ôl y tân trychinebus ar gampws Tycoch yn Hydref 2016, mae llyfrgell fodern newydd sbon eisoes wedi ailagor.  Mae'r lle dysgu a chymdeithasol modern hwn yn cynnig amryw o gyfleusterau i'r myfyrwyr gan gynnwys ardal arloesi, stiwdio Technoleg Gwybodaeth a Dysgu a phod acwstig, yn ogystal â mannau tawel i'r myfyrwyr astudio ar eu pennau eu hunain.

Hyfed ar gampws Tycoch bydd prosiect buddsoddi gwerth £3.5m ym mlaen yr adeilad yn cael ei gwblhau ar ddechrau 2018.  Bydd y fynedfa newydd ar y llawr gwaelod yn gartref i'r dderbynfa, y tîm derbyn, gwasanaethau cymorth myfyrwyr, cyllid myfyrwyr ac ystafell gyffredin i'r myfyrwyr ei mwynhau.  Ar y llawr gyntaf bydd 'hyb addysg uwch' pwrpasol i fyfyrwyr sy'n dilyn cyrsiau lefel uwch a fydd yn cynnwys ystafelloedd dosbarth, ystafell ymneilltuo a lle dysgu arbenigol.

Yn ogystal â'r gwaith uwchraddio ar gampws Tycoch, bydd estyniad i'r ffreutur poblogaidd ar gampws Gorseinon yn cynnig man ymneilltuo newydd i'r myfyrwyr gyda siop goffi Costa.

Wrth sôn am ddatblygiadau'r flwyddyn academaidd hon, dywedodd Mark Jones, Pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe: “Rydyn ni yr un mor gyffrous â'r myfyrwyr am y gwelliannau sy'n cael eu gwneud i'r coleg a fydd yn cael effaith bositif iawn ar bob un o'n dysgwyr.  Rydym yn ceisio gwella'r coleg a'i gyfleusterau trwy'r amser er mwyn iddo fod y dewis cyntaf i bobl ifanc ar draws Abertawe sy'n ystyried y cam nesaf ar eu taith addysgol."

Mae cyfleusterau ychwanegol yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yn cynnwys y bwyty Vanilla Pod - lla mae'r myfyrwyr lletygarwch ac arwylo yn paratoi, coginio a gweini'r holl brydau bwyd, gan redeg gwasanaeth llwyddiannus amser cinio a chyda'r hwyl yn ogystal â'r nosweithiau thema arbennig - a Chanolfan Broadway, lle mae myfyrwyr gwallt, harddwch a holisteg yn mireinio eu sgiliau mewn salonau, ystafelloedd triniaethau harddwch a sba pwrpasol.

Bydd myfyrwyr sy'n ymuno â chyrsiau adeiladu amser llawn newydd sbon y Coleg - lle y byddan nhw'n dysgu sgiliau gwaith coed, bricwaith a phaentio ac addurno - yn astudio yn Llys Jiwbilî yn Fforestfach lle mae'r Coleg wedi adeiladu gweithdai a lleoedd dysgu pwrpasol.

Mae'r Coleg hefyd wedi prynu adeilad yng nghanol y ddinas - a leolir ar Ffordd y Brenin - a fydd yn gweithredu fel Hyb Cyflogaeth ar gyfer ei fenter newydd sbon Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol.