Skip to main content
Meddyg teulu blaenllaw yn dod adref i ysbrydoli cenhedlaeth newydd o feddygon

Meddyg teulu blaenllaw yn dod adref i ysbrydoli cenhedlaeth newydd o feddygon

Daeth meddyg teulu mwyaf blaenllaw Prydain, Yr Athro Helen Stokes-Lampard, yn ôl adref i Abertawe yn ddiweddar ar gyfer taith frysiog ddau ddiwrnod. Yn ystod y daith, ymwelodd hi â’i hen ysgol a choleg lle cymerodd ei chamau cyntaf tuag at lwyddiant.

Roedd yr Athro Stokes-Lampard, Cadeirydd Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu – y Coleg Brenhinol Meddygol mwyaf yn y DU sy’n cynrychioli 52,000 o feddygon teulu ar draws y DU – wedi cwrdd â phlant Blwyddyn 10 yn Ysgol Gyfun Pen-yr-heol a myfyrwyr sydd â diddordeb mewn astudio meddygaeth yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yng Ngorseinon.

Roedd hi hefyd wedi ymweld â myfyrwyr yn Ysgol Feddygol Abertawe, yn ogystal â galw heibio i weld ei chydweithwyr sy’n feddygon teulu ym Meddygfa Tŷ’r Felin.

Roedd ei hymweliad wedi dechrau gyda’r Ddarlith Harvard Davies nodedig, a gynhaliwyd gan Gyfadran De-orllewin Cymru Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu, a ddenodd gannoedd o bobl ar y noson, gan gynnwys ei rhieni balch David a Valerie Stokes, athrawon sydd wedi ymddeol ac sy’n dal i fyw yng Ngorseinon.

Roedd Helen wedi tyfu lan yng Nghasllwchwr a Gorseinon cyn symud i Lundain i hyfforddi yn Ysgol Feddygol San Siôr. Mae hi bellach yn feddyg teulu sy’n ymarfer yng Nghanolbarth Lloegr ac mae ganddi swydd academaidd ym Mhrifysgol Birmingham.

Dywedodd Helen: “Yn amlwg, mae gan Abertawe le arbennig iawn yn fy nghalon a dwi’n dal i ddod yn ôl yn rheolaidd i weld fy nheulu. Roedd hi’n fraint traddodi Darlith Harvard Davies ac i gael cyfle i hel atgofion trwy fynd yn ôl i’m hen ysgol a choleg chweched dosbarth.

“Mae modelau rôl mor bwysig wrth dyfu lan a dwi mor dalch fy mod i wedi siarad â myfyrwyr presennol am ba mor gyffrous a buddiol y gall gyrfa meddyg teulu fod. Dych chi byth yn gwybod, efallai y byddwn yn recriwtio meddygon teulu y dyfodol hyd yn oed!”

Roedd Darlith Harvard Davies Helen wedi trafod ymarfer meddygol yn yr 21ain Ganrif ac a fydd arwyddair y Coleg, cum scientia caritas, - gwybodaeth wyddonol a gymhwysir â thosturi – yn dal i fod yn berthnasol ar gyfer dyfodol meddygaeth deuluol.

Mae’r ddarlith yn un o uchafbwyntiau’r flwyddyn ar gyfer Cyfadran De-orllewin Cymru sydd â thros 530 o feddygon teulu fel aelodau ar bob cam o’u gyrfaoedd.

“Pleser o’r mwyaf oedd croesawu’r Athro Stokes-Lampard yn ôl i gampws Gorseinon, lle roedd hi’n fyfyrwraig ar un adeg,” dywedodd y darlithydd Bioleg a’r tiwtor Gwyddor Feddygol Stewart McConnell. “Roedd ein myfyrwyr gwyddor feddygol presennol yn edrych ymlaen yn fawr at gwrdd â hi a chlywed yn uniongyrchol am ei gyrfa ddisglair.”

https://www.gcs.ac.uk/cy/maths-science-and-social-sciences

Cysylltiadau cyhoeddus a lluniau: Diolch i swyddfa’r wasg RCGP/Robert Melen

DIWEDD

Mae Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu yn rhwydwaith o fwy na 52,000 o feddygon teulu sy’n gweithio i wella gofal i gleifion. Rydym yn gweithio i annog a chynnal ymarfer meddygol cyffredinol o’r safon uchaf ac rydym yn gweithredu fel llais meddygon teulu ar addysg, hyfforddiant, ymchwil a safonau clinigol.