Skip to main content

Prentis Coleg Gŵyr Abertawe ar ei ffordd i Rwsia

Prentis o Goleg Gŵyr Abertawe yw'r myfyriwr cyntaf o Gymru i gael ei gynnwys yn nhîm Worldskills y DU yn y sector Electroneg Ddiwydiannol.

Bydd James Williams, sy'n gweithio yn Haven Automation yn Fforestfach, yn cael dwy flynedd o hyfforddiant arbenigol dwys a allai ei gymryd yr holl ffordd i Rownd Derfynol y Byd Worldskills yn Kazan, Rwsia, yn 2019.

“Rydym yn falch iawn o lwyddiant James, mae wedi gweithio'n galed tu hwnt ac ar fin bod y cyntaf i gynrychioli Cymru yn ei sector diwydiant, sy'n fraint enfawr,” meddai'r Arweinydd Cwricwlwm ar gyfer Technoleg Ddigidol Steve Williams.

“Mae Haven yn gweithgynhyrchu ac yn dosbarthu offeryniaeth prosesu ac mae hefyd yn labordy wedi’i achredu gan UKAS ar gyfer cyfarpar trydanol, pwysedd a thymheredd” ychwanegodd y Rheolwr Gyfarwyddwr Kate Jones. "Rydyn ni wrth ein bodd yn helpu James i ddatblygu, oherwydd mae ei sgiliau wedi’u teilwra’n arbennig ar gyfer ein math o ddiwydiant. Rydyn ni’n ffyddiog y bydd James yn ymgeisydd ardderchog i gynrychioli Cymru a bydd yn gystadleuydd cryf yn Rwsia.”

Llwyddiant James yw'r diweddaraf mewn cyfres hir o lwyddiannau i'r tîm Technoleg Ddigidol sydd newydd ddychwelyd o'r NEC yn Birmingham lle yr enillodd y myfyriwr Michael Jones feda efydd yn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol Worldskills.

Roedd Michael, a astudiodd Ddiploma Lefel 3 mewn Technoleg Peirianneg Drydanol ac Electronig ar gampws Tycoch cyn symud ymlaen i Brifysgol Abertawe, wedi cwblhau pedair tasg lwyddiannus dros ddau ddiwrnod, gan weithio oriau hir iawn i wneud hynny o fewn y terfynau amser penodol.

Yn y cyfamser, roedd pedwar myfyriwr arall - Matthew Sarsfield, Lyn Ball, Jordan Thomas a Beck Robert - wedi cynnal sioe arddangos lwyddiannus iawn yn yr NEC gan annog ymwelwyr i roi cynnig ar wibgart rhyngweithiol a gynlluniwyd ganddynt sy'n troi'n efelychwr rasio gwych o'i gysylltu â'r PlayStation.

“Roedd y nifer a ddaeth i'r stondin yn anhygoel,” ychwanega Steve, a weithiodd ochr yn ochr â'r darlithwyr Brian Lewis a Clive Monks i helpu'r myfyrwyr trwy bob cam o'r broses Worldskills. “Ar un adeg, roedd pobl yn ciwio i weld y gwibgart a siarad â nhw, a daeth rhai ohonyn nhw nôl am yr eildro.  Profiad gwych a roddodd hwb enfawr iddyn nhw i gyd."

https://www.gcs.ac.uk/cy/digital-technology