Skip to main content
Gwobr arian i fyfyrwyr Cyfrifeg

Gwobr arian i fyfyrwyr Cyfrifeg

Mae tri myfyriwr AAT Tystysgrif Sylfaen mewn Cyfrifeg o Goleg Gŵyr Abertawe yn dathlu ar ôl ennill gwobr Arian yn nigwyddiad Cyfrifeg Canolradd Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yng Ngholeg Sir Gâr.

Gwnaeth Demi-Lee Clement, Stela Kovacheva a Jasmeet Gaba amrywiaeth o dasgau gyda’r nod o asesu eu gallu technegol a’u gallu i weithio mewn tîm mewn adran gyfrifeg ‘ffug’.

“Roedd un marc yn unig rhwng eu tîm nhw a’r enillwyr ac felly dyn ni wrth ein boddau,” dywedodd yr Arweinydd Cwricwlwm Busnes, Amy Nisbet. “Roedd pob un o’n naw myfyriwr a gymerodd ran yn y digwyddiad hwn wedi dangos sgiliau cyflogadwyedd ardderchog a gwybodaeth o gyfrifeg.”