Skip to main content
Prentisiaid o'r Coleg yn cyrraedd y Rowndiau Terfynol

Prentisiaid o'r Coleg yn cyrraedd y Rowndiau Terfynol

Bydd dau fyfyriwr o Goleg Gŵyr Abertawe yn cynrychioli Cymru ar y llwyfan cenedlaethol yn y cystadlaethau trydanol a phlymwaith sydd ar fin cael eu cynnal.

Cafodd Jay Popham ei enwi'n enillydd rhagbrawf rhanbarthol diweddar Cystadleuaeth Prentis Trydanol y Flwyddyn y DU SPARKS a gafodd ei gynnal ar gampws Llys Jiwbilî'r Coleg.

Mae ar ei ffordd bellach i Rownd Derfynol SPARKS yn Bracknell ar 11/12 Ebrill lle y bydd yn cystadlu am y prif deitl a gwobrau sy'n werth dros £8000 a gafodd eu rhoi gan noddwyr a'r gweithgynhyrchwyr cyfrannu, gan gynnwys y noddwr Platinwm Schneider Electric.

Cafodd Luke Evans ei goroni'n enillydd rhagbrawf rhanbarthol Cystadleuaeth Prentis Gwresogi'r Flwyddyn y DU HIP sy'n golygu ei fod wedi sicrhau ei le yn Rownd Derfynol HIP yn Cheltenham ar 25/26 Ebrill.

Gallai enillydd y digwyddiad hwnnw ennill gwobrau sy'n werth dros £9000 a gafodd eu rhoi gan noddwyr y gystadleuaeth a'r gweithgynhyrchwyr cyfrannu. Mae hyn yn cynnwys gwobr arian o £1000 gan y Noddwr Platinwm ADEY i'r myfyriwr buddugol, yn ogystal â gwobr arian o £1000 ar gyfer ei goleg.

Mae cystadlaethau'r DU yn cael eu trefnu bob blwyddyn gan SPARKS a HIP Magazines ar gyfer myfyrwyr ar gyrsiau Lefel 2 a 3.
 
“Bydd y myfyrwyr yn cael llawer allan o'r cystadlaethau hyn," meddai Natacha Fielding, Rheolwr Gyfarwyddwr SNG Publishing Ltd. “Maen nhw'n gwneud ffrindiau newydd, yn magu hyder yn eu gallu ac yn mwynhau her cystadlu."

DIWEDD