Skip to main content

Darlithydd yn ŵr gwadd yn lansiad popty

Stephen Williams, darlithydd Arlwyo a Lletygarwch yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, oedd y gŵr gwadd yn agoriad swyddogol popty newydd sbon yng nghanol y ddinas.

Perchennog yr Hong Kong Bakery yn Heol Brynymor yw Peter Wong, cyn-fyfyriwr yn y Coleg.

“Roedd Peter wedi cwblhau ei gymwysterau arlwyo gyda ni a dychwelyd fel oedolyn sy’n dysgu, gan ddilyn cwrs Pobi a Phwdinau gyda fi,” dywedodd Stephen. “Roeddwn i wrth fy modd pan ofynnwyd i fi dorri’r rhuban i lansio ei fenter busnes newydd a dwi’n dymuno pob llwyddiant iddo ar gyfer y dyfodol.”